Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan Feddygol Saltmead yn Grangetown, Caerdydd i roi eu contract GMS yn ôl

Ar ôl llawer o feddwl ac ystyriaeth, mae'r Practis wedi gwneud y penderfyniad anodd i roi rhybudd i'r Bwrdd Iechyd y byddant yn rhoi eu contract GMS yn ôl.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn gwerthfawrogi y bydd hyn yn achosi pryder i gleifion a'r gymuned leol ond rydym yn gweithio'n agos gyda phractisau eraill yn yr ardal i ddod o hyd i ateb i gynnal gwasanaethau ar gyfer cleifion Canolfan Feddygol Saltmead.

Ein ffocws yw sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n agosach at y cartref ac, ar y cyd â'n rhanddeiliaid, byddwn yn canfod ffordd ymlaen i sicrhau bod gwasanaethau meddygon teulu yn cael eu darparu yn y dyfodol i bob claf presennol.

Bydd cleifion yn parhau i dderbyn gofal iechyd priodol yng Nghanolfan Feddygol Saltmead hyd at, ac yn cynnwys ddydd Gwener 25 Chwefror 2022, felly nid oes angen i gleifion wneud unrhyw beth ar hyn o bryd. Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r gymuned leol am sut y bydd gofal iechyd yn cael ei ddarparu yn y dyfodol, wrth i ni geisio dod o hyd i ddatrysiad.

Hoffai’r Bwrdd Iechyd ddiolch i’r gymuned am eu hamynedd yn ystod yr adeg hon, a gallwn sicrhau cleifion ein bod yn ymrwymedig i ddatrys hyn er mwyn diwallu anghenion gofal iechyd y boblogaeth leol.

 

26/11/2021

Dilynwch ni