24 Hydref 2023
Gyda Chalan Gaeaf ar y gorwel, mae’n bwysig cadw llygad nid yn unig am ellyllon ac ysbrydion, ond hefyd am iechyd a lles eich hunain ac eraill.
Gallwch osgoi unrhyw ofnau gofal iechyd gyda’n cyngor diogelwch isod:
Helfa ysbrydion a gweithgareddau awyr agored
Wrth i’r tymheredd ostwng yng Nghaerdydd a’r Fro, cadwch yn gynnes wrth i chi archwilio coedwigoedd arswydus neu dai llawn ysbrydion gyda theulu a ffrindiau.
Gwisgwch ddigon o haenau, a fydd yn helpu i gynnal gwres eich corff, gan gynnwys menig a het gan amddiffyn eich dwylo a’ch pen sy’n colli gwres gyflymaf.
Pan fyddwch allan, ewch â fflasgiau o ddiodydd poeth gyda chi nid yn unig i gadw’n gynnes, ond hefyd i sicrhau eich bod yn yfed digon. Bydd byrbrydau iach hefyd yn helpu i roi digon o egni i chi ac i gadw’n gynnes pan fyddwch allan yn yr oerfel.
Cerfio Pwmpen
Os ydych chi’n treulio’ch noson yn cerfio pwmpenni i’w troi’n Jac y Lantar ar gyfer Calan Gaeaf, byddwch yn ofalus iawn wrth drin gwrthrychau miniog.
Cast neu Geiniog
P’un a ydych chi’n ysbryd ifanc neu’n hen ellyll, meddyliwch am ffyrdd hwyliog ac iach o ddosbarthu danteithion eleni, fel darnau o ffrwythau i gyd-fynd â’r casgliad. Gallwch hefyd ddefnyddio’r hyn sy’n weddill o gerfio’r bwmpen i wneud cawl blasus ac iach.
Os ydych chi’n bwyta rhywbeth yn ystod Calan Gaeaf ac yn teimlo’n sâl, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cysylltu â GIG 111 i wirio’ch symptomau fel cam cyntaf.
Gwisgoedd a phaent wyneb
Byddwch yn arbennig o ofalus wrth wisgo gwisg ffansi yn ystod Calan Gaeaf oherwydd gall rhai fod yn fflamadwy iawn, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn osgoi fflamau noeth.
Gyda phaent wyneb a cholur arall, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n eu profi ar ddarn bach o groen yn gyntaf rhag ofn y bydd unrhyw alergedd, er mwyn osgoi unrhyw adweithiau.