Neidio i'r prif gynnwy

Cadw eich hun yn iach dros benwythnos Gŵyl Banc y Pasg

Bae Dwnrhefn ar fachlud haul

25 Mawrth 2024

Mae Gŵyl Banc y Pasg yn dilyn cyfnod o 96 awr o Weithredu Diwydiannol gan Feddygon Iau. Yn ystod penwythnos gŵyl y banc, bydd eich practis meddyg teulu, yn ogystal â rhai gwasanaethau gofal sylfaenol, ar gau am bedwar diwrnod.

Os oes angen gwasanaethau gofal iechyd arnoch yn ystod penwythnos y Pasg, bydd yr erthygl hon yn rhoi’r holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch i ddefnyddio gwasanaethau’n briodol dros ŵyl y banc.

 

Oriau Agor Fferyllfeydd Cymunedol

Mae rhai fferyllwyr cymunedol ar agor dros ŵyl y banc i roi cyngor a meddyginiaeth dros y cownter ar gyfer mân afiechydon.

Am oriau agor eich fferyllfa leol, ewch i’r dudalen we hon. 

 

Gwnewch yn siŵr fod eich pecyn cymorth cyntaf yn gyflawn

Gellir trin y rhan fwyaf o fân anhwylderau ac anafiadau gartref neu pan fyddwch allan. Gall cadw pecyn cymorth cyntaf cyflawn wrth law helpu i drin unrhyw fân friwiau, crafiadau, ergydion neu salwch yn gyflym ac yn hawdd.

Dylai eich pecyn cymorth cyntaf gynnwys clytiau alcohol, plastrau, rhwymynnau, pliciwr, siswrn, hufen antiseptig, cyffuriau lladd poen a gwrth-histaminau ymhlith pethau eraill. Mae’r wefan GIG hon yn cynnwys yr holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch ar gyfer llenwi pecyn cymorth cyntaf.

 

Mynd i ffwrdd? Rydyn ni dal yma i chi.

Ble bynnag yr ydych yn treulio gŵyl y banc yng Nghymru, os oes angen i chi gael mynediad at wybodaeth gofal iechyd, cyngor neu gymorth gofal brys, mae GIG 111 ar gael.

Gallwch gael amrywiaeth o gyngor gofal iechyd a gwybodaeth leol ar wefan 111 GIG Cymru, neu siaradwch â swyddog galwadau am gyngor iechyd brys a mynediad at ofal brys y tu allan i oriau 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos trwy ddeialu 111.

 

Gwybod eich Dewis Sylfaenol

Eich tîm Gofal Sylfaenol yw eich pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer gofal iechyd ac mae’n cynnwys eich meddyg teulu, fferyllfa gymunedol, gwasanaethau deintyddol ac optometreg (iechyd llygaid). Gall gwybod pwy i’w weld am y cyngor gorau ar yr amser iawn helpu i sicrhau eich bod yn cael y driniaeth fwyaf priodol cyn gynted â phosibl, fel y gallwch fynd yn ôl i fwynhau eich gwyliau.

Cliciwch yma i gwrdd â’ch tîm Gofal Sylfaenol a deall pwy yw eich Dewis Sylfaenol.

 

Os oes angen i chi gael eich gweld yn yr Uned Achosion Brys neu’r Uned Mân Anafiadau

Os ydych chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn dioddef o anaf neu salwch dros benwythnos gŵyl y banc, a’i fod yn fater brys ond nid yw’n peryglu bywyd, ffoniwch 111 i gael mynediad at ofal brys y tu allan i oriau neu ar gyfer yr Uned Mân Anafiadau.

Bydd swyddog galwadau yn asesu eich cyflwr ac os bydd yn briodol, bydd clinigwr CAF 24/7 yn eich ffonio’n ôl. Os bydd y clinigwr yn penderfynu bod angen asesiad pellach arnoch, byddwch yn cael slot amser i fynychu’r gwasanaeth mwyaf priodol.

Cofiwch fod 999 ar gael i chi o hyd mewn argyfwng difrifol neu lle mae bywyd yn y fantol.

 

Yfed yn Ymwybodol

Os ydych chi’n mwynhau gŵyl y banc gydag alcohol, mae’n bwysig gwybod eich terfynau.  Argymhellir na ddylai oedolion yfed mwy na 14 uned o alcohol yr wythnos yn rheolaidd.

Yfwch alcohol yn gymedrol, yfwch ddigon o ddŵr a byddwch yn ymwybodol o’ch terfynau, gall hyn helpu i liniaru risgiau uniongyrchol yfed yn drwm.

Dilynwch ni