Neidio i'r prif gynnwy

Bydwraig ddigidol gyntaf BIP Caerdydd a'r Fro yn ennill Gwobr Rhagoriaeth CNO

Mae bydwraig ddigidol gyntaf Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi derbyn Gwobr Rhagoriaeth CNO am ei gwaith rhagorol yn trawsnewid gwasanaethau a chynyddu diogelwch i deuluoedd. 

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Fydwraig, ymunodd Prif Swyddog Nyrsio Cymru, Sue Tranka, â thimau bydwreigiaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru i gyhoeddi enillwyr diweddaraf Gwobrau Rhagoriaeth CNO. 

Cyflwynwyd y wobr i Donna James am ei hymroddiad eithriadol i’r gwasanaeth, ei chleifion a’u teuluoedd. 

Mae Donna, y fydwraig ddigidol gyntaf yn y Bwrdd Iechyd, wedi trawsnewid gwasanaethau bydwreigiaeth ac wedi cynyddu diogelwch i deuluoedd drwy wella’r cyfathrebu rhyngddynt a’r gwasanaeth. 

Mae Donna yn hunanddysgedig ym maes rhaglennu cyfrifiadurol ac mae’r system atgyfeiriad beichiogrwydd electronig a gafodd ei chreu yn ystod y pandemig wedi arwain at fynediad mwy cyflym a chyfleus at ofal mamolaeth i fenywod a phobl sy’n geni ac wedi arbed amser sylweddol i staff. 

Derbyniodd pum bydwraig arall o BIP Caerdydd a’r Fro wobrau hefyd am eu cyfraniadau rhagorol. Enillwyr eleni oedd: 

  • Katie Falvey — Gwobr Myfyriwr Bydwreigiaeth 

  • Hannah Williams — Gwobr Bydwraig Gymunedol 

  • Zoe Millichap — Gwobr Cymhellwr Bydwragedd 

  • Maria Hollinshead — Gwobr Cymorth o ran Bwydo 

  • Natalie Hurst — Gwobr Mynd yr Ail Filltir 

Wrth siarad yn y seremoni, dywedodd Sue: “Mae’n bwysig bod y proffesiwn bydwreigiaeth yn cael ei gydnabod am y rôl hanfodol sydd ganddo ym mywydau pobl. 

“Mae wedi bod yn wych clywed am ymrwymiad cydweithwyr ledled Cymru ac i ddathlu rôl bydwragedd, sy’n ganolog i ofal mamolaeth. 

“Mae’r gwobrau hyn yn adlewyrchu cymaint rwy’n gwerthfawrogi ymroddiad enillwyr y gwobrau, a hoffwn eu llongyfarch a diolch iddynt am eu holl ymdrechion.”

Dilynwch ni