Mae bydwraig ddigidol gyntaf Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi derbyn Gwobr Rhagoriaeth CNO am ei gwaith rhagorol yn trawsnewid gwasanaethau a chynyddu diogelwch i deuluoedd.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Fydwraig, ymunodd Prif Swyddog Nyrsio Cymru, Sue Tranka, â thimau bydwreigiaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru i gyhoeddi enillwyr diweddaraf Gwobrau Rhagoriaeth CNO.
Cyflwynwyd y wobr i Donna James am ei hymroddiad eithriadol i’r gwasanaeth, ei chleifion a’u teuluoedd.
Mae Donna, y fydwraig ddigidol gyntaf yn y Bwrdd Iechyd, wedi trawsnewid gwasanaethau bydwreigiaeth ac wedi cynyddu diogelwch i deuluoedd drwy wella’r cyfathrebu rhyngddynt a’r gwasanaeth.
Mae Donna yn hunanddysgedig ym maes rhaglennu cyfrifiadurol ac mae’r system atgyfeiriad beichiogrwydd electronig a gafodd ei chreu yn ystod y pandemig wedi arwain at fynediad mwy cyflym a chyfleus at ofal mamolaeth i fenywod a phobl sy’n geni ac wedi arbed amser sylweddol i staff.
Derbyniodd pum bydwraig arall o BIP Caerdydd a’r Fro wobrau hefyd am eu cyfraniadau rhagorol. Enillwyr eleni oedd:
Katie Falvey — Gwobr Myfyriwr Bydwreigiaeth
Hannah Williams — Gwobr Bydwraig Gymunedol
Zoe Millichap — Gwobr Cymhellwr Bydwragedd
Maria Hollinshead — Gwobr Cymorth o ran Bwydo
Natalie Hurst — Gwobr Mynd yr Ail Filltir
Wrth siarad yn y seremoni, dywedodd Sue: “Mae’n bwysig bod y proffesiwn bydwreigiaeth yn cael ei gydnabod am y rôl hanfodol sydd ganddo ym mywydau pobl.
“Mae wedi bod yn wych clywed am ymrwymiad cydweithwyr ledled Cymru ac i ddathlu rôl bydwragedd, sy’n ganolog i ofal mamolaeth.
“Mae’r gwobrau hyn yn adlewyrchu cymaint rwy’n gwerthfawrogi ymroddiad enillwyr y gwobrau, a hoffwn eu llongyfarch a diolch iddynt am eu holl ymdrechion.”