Neidio i'r prif gynnwy

Byddwch yn gynghreiriad i'ch cymuned LHDTQ+

Mae Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia, Trawsffobia a Deuffobia (IDAHOBIT) yn digwydd ar 17 Mai bob blwyddyn. Dewiswyd y dyddiad hwn a gydnabyddir yn fyd-eang i nodi penderfyniad Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) i dynnu cyfunrywioldeb o'r Dosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau ym 1990. 

Pwrpas IDAHOBIT yw codi ymwybyddiaeth ac amlygu’r materion mae’r cymunedau byd-eang LHDTQ+ dal yn wynebu ac i annog pobl ar draws y byd i gefnogi'r cymunedau a hyrwyddo cydraddoldeb. 

Y ffordd orau y gallwn gefnogi ein cymuned LHDTQ+ yw bod yn gynghreiriaid gwell. Mae bod yn gynghreiriad yn golygu bod person syth neu cisgen yn cefnogi hawliau cydraddoldeb y gymuned LHDTQ+ trwy eu helpu i fynd i'r afael â rhagfarn, bod yn fwy deallgar o'u profiad byw a brwydro yn erbyn unrhyw ymddygiad gwrth-LHDTQ+ y byddwn yn dod ar ei draws. 

Dyma ychydig o bethau y gallwch chi eu gwneud i ddod yn gynghreiriad i'r gymuned LHDTQ+.

Byddwch yn ystyriol ac yn garedig 

Mae bod yn ystyriol o ddefnyddio iaith anneuaidd yn ffordd wych o greu cymdeithas fwy cynhwysol. Mae’n bosibl y bydd aelodau’r gymuned LHDTQ+ yn teimlo eu bod wedi’u ei chau allan yn fwy os yw iaith syth a cisgen wedi’i ystyrir yn normal a bod unrhyw beth heblaw hynny yn annormal. 

Cofiwch fod yn garedig, ni ddylai rhyw neu rywioldeb unigolyn fod yn ffactor mewn ffordd rydych yn eu trin, ac nad yw’n rhywbeth i chwerthin neu jôc amdano. Dylid trin pobl o bob rhyw a rhywioldeb gyda pharch a charedigrwydd cyfartal bob dydd. 

Gofyn cwestiynau a gwrando 

Os oes unrhyw beth rydych chi'n ansicr am y gymuned LHDTQ+, peidiwch â bod ofn gofyn. Cyn belled â bod y cwestiynau'n gwrtais, yn barchus a heb fod yn rhy ymwthiol, bydd unigolion o'r gymuned yn fwy cyfforddus â'ch ymdrechion i'w deall. 

Trwy ofyn cwestiynau a gwrando arnynt gallwch ddod i ddeall mwy am eu profiad byw. Fel person syth neu cisgen, ni fyddwch yn deall yn iawn faint o homoffobia y gallan nhw ei wynebu bob dydd o fewn cymdeithas, trwy siarad â nhw a gwrando am eu profiad efallai y byddwch chi'n cael mwy o fewnwelediad a dealltwriaeth o'r hyn maen nhw'n ei wrthwynebu.  

Siarad i fyny 

Nid oes unrhyw un yn haeddu cael ei feirniadu oherwydd eu rhyw neu rywioldeb. Os gwelwch gam-drin homoffobig, adroddwch. Mae'n bwysig sefyll dros y gymuned LHDTQ+, p’un a ydych chi’n adnabod yr unigolyn neu beidio. Peidiwch â bod yn wyliwr, siaradwch yn erbyn ymddygiad gwrth-LHDTQ+, a helpwch i greu cydraddoldeb mewn cymdeithas. 

Os ydych chi'n clywed rhywun yn defnyddio iaith bob dydd sy'n sarhaus i unrhyw aelod o'r gymuned LHDTQ+, dylech chi ei herio. Efallai na fydd rhai pobl yn deall eu bod nhw’n siarad yn sarhaus, trwy herio nhw, gallwch addysgu mwy o bobl i fod yn fwy cynhwysol a pharchus i bawb. 

Byddwch yn cefnogol 

Trwy wneud eich ymchwil a dysgu materion cyfoes sydd o ddiddordeb i'r gymuned LHDTQ+, gallwch chi ffurfio dealltwriaeth a barn ddyfnach o'r materion heb gynrychiolaeth ddigonol y mae pobl LHDTQ+ yn parhau i'w hwynebu. 

Gallwch hefyd fod yn gefnogol trwy fynychu protestiadau, gorymdeithiau, gwrthdystiadau ac arwyddo deisebau. P'un a ydych chi'n ystyried eich bod yn LHDTQ+ neu ddim, bydd bod yn bresennol yn gymorth enfawr i sefyll dros gydraddoldeb. 

Mae helpu pobl i oresgyn cyfnodau anodd fel bwlio, dod allan neu fwy o faterion yn ffordd wych i ddangos eich cefnogaeth. Trwy ledaenu gair o adnoddau a gwasanaethau cymorth, gallwch helpu pobl i gael yr help sydd ei angen arnynt gydag unrhyw faterion y maent yn eu hwynebu. 

Mae’ch cefnogaeth a'ch ymdrechion i fod yn gynghreiriad yn hanfodol i hyrwyddo'r frwydr yn erbyn materion y mae ein cymuned LHDTQ+ yn eu hwynebu. Diolch. 

Gwelech adnoddau lleol sy’n cynnig cefnogaeth gyfrinachol isod: 

Nodwch, gall plant hefyd gael cymorth trwy eu nyrs ysgol. 

Dilynwch ni