Mewn ymgyrch sy'n anelu at osod Caerdydd ar y llwybr i fod yn un o leoedd bwyd mwyaf cynaliadwy'r DU.
Mae'r ymgyrch yn gobeithio grymuso pobl leol i greu economi fwyd leol ffyniannus lle mae gan bawb fynediad at fwyd iach ac amgylcheddol gynaliadwy, drwy 'wneud addewid'.
Yn ôl Pearl Costello, Cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Bwyd Caerdydd: "Mae Bwyd Caerdydd yn credu bod y bwyd rydyn ni'n ei fwyta yn cael effaith enfawr ar fywyd yng Nghaerdydd, nid yn unig ar iechyd pobl, ond ar gymunedau a busnesau, ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd, a'r amgylchedd hefyd. Mae bwyd da yn creu cymunedau cryf, iach a gwydn sy'n ffynnu.”
Mae'r bartneriaeth ledled y ddinas o fwy na 200 o unigolion a sefydliadau yn gofyn i bobl wneud addewid a gweithredu, i helpu Caerdydd i ennill statws Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Aur erbyn y flwyddyn 2024.
"Rydym yn llawn cyffro i lansio'r ymgyrch hon i roi cyfle i bob un person, a sefydliad, yng Nghaerdydd wneud addewid, neu sawl addewid, a rhoi Caerdydd ar y llwybr i fod yn un o'r dinasoedd mwyaf cynaliadwy yn y DU," parhaodd Pearl.
Y llynedd, dyfarnwyd Gwobr Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Arian i Gaerdydd, sef y lle cyntaf yng Nghymru, ac un o ddim ond chwe lle yn y DU, i ennill y wobr fawreddog.
Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yw un o'r ymgyrchoedd cymdeithasol sy'n tyfu gyflymaf heddiw, gan ddod â phartneriaethau bwyd arloesol o bob rhan o'r DU at ei gilydd i sbarduno arloesedd ac arfer gorau ar bob agwedd ar fwyd iach a chynaliadwy.
I ennill eu gwobr, mae'n rhaid i ymgeiswyr ddangos eu hymdrechion i gyflawni chwe mater bwyd cynaliadwy allweddol yr ymgyrch:
Mae bwrdd strategaeth Bwyd Caerdydd yn cynnwys deg aelod gwirfoddol o amrywiaeth o sefydliadau gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, Cyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Marchnadoedd Ffermwyr Glan yr Afon, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Gweithredu yng Nghaerau a Threlái.
Trwy’r rhwydwaith hwn, mae Caerdydd yn gyrru newid ar draws y ddinas ac yn gweithio i fynd i’r afael â rhai o faterion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol mwyaf heddiw.
09/03/2022