31 Ionawr 2022
Cafodd y cynllun peilot ei ysbrydoli gan Vision Care for Homeless People a gwnaeth Optometryddion ac Optegwyr Fferyllol lleol wirfoddoli eu hamser i ddarparu sesiynau clinigol ar gyfer cleifion na allent fod yn cael gafael ar y gofal iechyd sydd ei angen arnynt. Wedi’i gynnal mewn canolfan amlddisgyblaethol yng nghanol y ddinas, gwnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ddarparu offer Optometreg arbenigol i’r ystafell asesu clinigol a oedd wedi’i hadnewyddu, gan sicrhau bod gan Optometryddion a chleifion rywle addas a chyfforddus i gynnal archwiliadau.
Dywedodd Jane Brown, Pennaeth y Gwasanaeth Deintyddol ac Optometreg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Mae’n bwysig bod ein gwasanaethau ar gael a’u bod yn hygyrch i bawb sydd eu hangen, fodd bynnag rydym yn ymwybodol, i rai carfannau o gleifion, y gallai hyn fod yn fwy heriol. Pan gysylltodd yr Optometryddion â ni i gael sesiynau clinigol mewn canolfan asesu sengl a phwrpasol yng Nghaerdydd, nod y Tîm Optometreg Gofal Sylfaenol oedd darparu ystafelloedd oedd yn cynnwys yr offer priodol, er mwyn creu man clinigol cyfforddus a phriodol i gynnal yr asesiadau hyn a darparu gwasanaeth.”
Dywedodd Sharon Beatty, Cynghorydd Optometreg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Roeddem wedi’n synnu at lefel y gefnogaeth gan yr holl randdeiliaid dan sylw pan oeddem yn cydweithio i sefydlu’r gwasanaeth. Mae Byrddau Iechyd eraill yng Nghymru wedi cysylltu â ni i ddysgu sut rydym wedi sefydlu’r gwasanaeth yng Nghaerdydd, ac rydym wedi rhannu llwybr y gwasanaeth gyda nhw.
Dan arweiniad yr Optometrydd Vikki Ann Baker, yn ystod y sesiwn gyntaf cafodd 11 o gleifion digartref archwiliad yn y ganolfan, ac roedd angen sbectol ar y rhan fwyaf ohonynt i roi cymorth pellach iddynt. Mae’r dull cydweithredol rhwng yr holl randdeiliaid dan sylw yn sicrhau bod y cleifion yn gallu cael gafael ar sbectolau ac unrhyw atgyfeiriadau neu ymyriadau ychwanegol drwy’r gwasanaeth.
Meddai Vikki: “Rwy’n falch iawn o lwyddiant y rhaglen beilot ac rydym yn edrych ymlaen at ei chynnal bob mis, neu bob deufis wrth symud ymlaen. Mae’r cymorth ar gyfer y rhaglen wedi bod yn hynod werthfawr ac mae’r ymrwymiad hwn wedi golygu ein bod wedi gallu sicrhau’r offer sydd ei angen i ddarparu gofal o ansawdd ac archwiliadau mewn amgylchedd diogel a chyfforddus.”
Mae gan y ganolfan amlddisgyblaethol amrywiaeth o amwynderau a gwasanaethau sydd ar gael i ddinasyddion eu defnyddio. Mae Jayne Barrett, Nyrs Gofal Iechyd Sylfaenol yn Nhîm Amlddisgyblaethol Cyngor Caerdydd i’r Digartref, yn rhan o dîm ehangach sy’n hyrwyddo cefnogaeth i’r garfan hon o gleifion, gan greu amgylchedd cynhwysol a gwasanaethau y gall unrhyw un gael gafael arnynt.
Eglurodd Jayne, “Mae’r gefnogaeth sydd ar gael yn y ganolfan yn hanfodol i’r garfan hon o gleifion, gan ein bod wedi cael gwared ar unrhyw gymhlethdodau a mynd â’n gwasanaethau atyn nhw. Mae’r tîm amlddisgyblaethol yn darparu dull manwl, wedi’i dargedu o gynnig gofal, sy’n darparu gwasanaeth cofleidiol i gleifion, a bellach yn cynnwys archwiliadau optometreg a chymorth pellach. Yn ychwanegol at hyn, rydym hefyd yn cynnig gwasanaethau dargyfeiriol, gan ddarparu gweithgareddau i gleifion eu cyflawni pan fyddant yn aros i gael eu gweld. Mae hyn yn helpu i greu man cynhwysol, cyfforddus a chadarnhaol sy’n ymgorffori amrywiaeth o arbenigeddau gwahanol i leihau rhwystrau o ran hygyrchedd a helpu cleifion i ymwneud â gwasanaethau.”
Gyda’r sesiynau archwiliadau llygaid wedi’u trefnu ar gyfer diwedd y mis ac eto'r mis canlynol, mae’r gymuned o gymorth sy’n gysylltiedig â’r ganolfan yn anelu at annog hyd yn oed mwy o gleifion i gael gafael ar wasanaethau a chymorth ehangach.