Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro Gwnewch e'n Las i Godi Ymwybyddiaeth o Glefyd Parkinson

Parkinson

10 Ebrill 2024

Mae 11 Ebrill yn cael ei gydnabod fel Diwrnod Parkinson's y Byd. Eleni, i gefnogi ymgyrch Gwnewch e’n Las Parkinson's UK mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn goleuo'r llyn yn las yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Thema Diwrnod Parkinson's y Byd eleni yw annog pobl i fyw yn well gyda chlefyd Parkinson. Ar wefan Cadw Fi’n Iach, mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn darparu awgrymiadau hunan-reoli a chymorth therapi i helpu pobl â chlefyd Parkinson i fyw'n well.

Ynglŷn â chlefyd Parkinson

Mae clefyd Parkinson yn gyflwr niwrolegol lle mae rhannau o'r ymennydd yn cael eu niweidio'n raddol dros y blynyddoedd. Mae'r elusen Parkinson's UK yn amcangyfrif bod nifer y bobl sydd â diagnosis o glefyd Parkinson yn y DU oddeutu 145,000, neu un oedolyn ym mhob 350.

Y prif symptomau yw cryndod, cyhyrau stiff a symudiad araf. Fodd bynnag, gall ddod ag ystod eang o symptomau corfforol a seicolegol eraill. Ar wefan Cadw Fi’n Iach mae clinigwyr yn awgrymu ffyrdd o reoli'r cyflwr fel bod pobl â chlefyd Parkinson yn gallu byw'n well.

Pryder ac emosiynau cymhleth

Gall derbyn diagnosis o glefyd Parkinson gymryd amser i’w amgyffred ac addasu iddo. Yn aml iawn, mae llawer o deimladau cymhleth yn gysylltiedig â diagnosis newydd, sy'n gwbl ddealladwy.

Mae rhai pobl yn teimlo'n bryderus ac yn ofnus am y dyfodol, rhai yn teimlo'n ddig wrthyn nhw eu hunain am beidio sylwi ar y symptomau yn gynt ac eraill yn ceisio osgoi neu wadu'r symptomau a cheisio dal ati fel arfer. Gall pobl eraill deimlo rhyddhad o gael diagnosis, neu'n obeithiol y gall triniaeth eu helpu i deimlo'n well.

Gall siarad â phobl eraill rydych chi'n ymddiried ynddyn nhw fod yn gymorth i brosesu emosiynau cymhleth. Weithiau, mae pobl yn dweud nad ydyn nhw am roi baich ar aelodau o'r teulu neu ffrindiau ac y byddai'n well ganddyn nhw siarad â rhywun niwtral.

Ar wefan Cadw Fi’n Iach mae Dr Ruth Lewis-Morton, Seicolegydd Clinigol gyda’r Gwasanaeth Parkinson's ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn esbonio sut gall Seicolegydd Clinigol gefnogi pobl i ddeall eu hemosiynau ar ôl diagnosis o glefyd Parkinson.

Colli pwysau’n anfwriadol

Gall pobl â chlefyd Parkinson weithiau golli pwysau'n anfwriadol, oherwydd diffyg archwaeth, defnyddio mwy o egni, cael anawsterau llyncu neu anawsterau wrth baratoi prydau bwyd. Gall hyn gynyddu eich risg o ddiffyg maeth a’i risgiau cysylltiedig.

Ar wefan Cadw Fi'n Iach, mae Jamie, Deietegydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn rhoi awgrymiadau i chi roi cynnig arnynt os gwelwch eich bod yn colli pwysau ac nad ydych am wneud hynny, neu os nad oes gennych lawer o chwant bwyd.

Lleferydd a llyncu

Mae rhai unigolion sydd wedi cael diagnosis o glefyd Parkinson yn gallu profi newidiadau yn eu lleferydd a llyncu wrth i'r cyflwr ddatblygu dros amser. Gall lleferydd yr unigolyn fynd yn aneglur ac yn anodd ei ddeall, a bydd angen mwy o ymdrech i lyncu hylif a bwyd.

Mae'r Gwasanaeth Therapi Lleferydd ac Iaith yn gallu helpu os byddwch chi'n sylwi ar y newidiadau hyn. Gallwch chi gysylltu â ni'n uniongyrchol drwy e-bost cav.sltoutpatients@wales.nhs.uk neu ar 02920 743012. 

Cadw’n heini

Mae ymarfer corff yn rhan bwysig iawn o reoli clefyd Parkinson ac rydym yn cynnig cyngor a chefnogaeth er mwyn teilwra hyn i chi, sy'n bwysig hyd yn oed os mai symptomau ysgafn iawn sydd gennych chi. Un o’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig yw dosbarth ymyrraeth gynnar clefyd Parkinson.

Adnoddau gan Parkinson's UK

Mae'r elusen Parkinson's UK hefyd wedi cynhyrchu gwybodaeth ddefnyddiol i helpu i reoli symptomau a brofir gan bobl â chlefyd Parkinson:

Gallwch gysylltu â Thîm Arbenigol clefyd Parkinson ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i gael cymorth pan fyddwch ei angen ar 02921 824342 neu drwy e-bost ar Cav.parkinsons@wales.nhs.uk

Mae pobl sy’n cael eu cefnogi i fyw'n iach, wedi'u galluogi gan amgylcheddau iach a chefnogol, yn allweddol i gyflawni gweledigaeth y Bwrdd Iechyd. Darllenwch fwy am strategaeth y Bwrdd Iechyd ar gyfer 2023-2035 yn shapingourfuturewellbeing.com.

Dilynwch ni