12 Mawrth 2024
Fe allai plant a gollodd y cyfle i gael dau ddos o frechlyn y frech goch, clwy’r pennau a rwbela (MMR) eu derbyn yn yr ysgol yn fuan, yn dilyn pryderon ynghylch bygythiad y frech goch ar draws Caerdydd a’r Fro.
Dros yr wythnosau nesaf, bydd tîm imiwneiddio Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn ymweld â dros 60 o ysgolion cynradd ac uwchradd - lle mae’r nifer sydd wedi derbyn MMR yn llai na 90% - i roi’r brechlyn diogel ac effeithiol.
Bydd rhieni’n derbyn gohebiaeth gan ysgol eu plentyn gyda dolen neu god QR i lenwi ffurflen caniatâd electronig a’i chyflwyno.
Fel arfer, rhoddir un dos o’r brechlyn MMR i blant sy’n 12 mis oed, ac ail un yn dair oed a phedwar mis. Fodd bynnag, mae cannoedd o blant dros bump oed ar draws Caerdydd a’r Fro sydd dal heb dderbyn un dos, sy’n eu rhoi mewn perygl.
Mae’r frech goch yn salwch feirysol heintus iawn a all achosi cymhlethdodau difrifol, gan gynnwys problemau gyda’r galon a’r system nerfol, colli golwg a llid yr ymennydd. Yn y sefyllfa waethaf, gall pobl hyd yn oed golli eu bywydau.
Cyhoeddwyd achosion o’r frech goch yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2023, ac mae mwy o achosion wedi’u cadarnhau yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, Llundain, Swydd Efrog, Humber a Dwyrain Canolbarth Lloegr yn fwy diweddar.
Dywedodd Claire Beynon, Cyfarwyddwr Gweithredol newydd Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Rwy’n poeni’n fawr y bydd achos arall o’r frech goch yng Nghaerdydd a’r Fro. Dyna fy mhrif flaenoriaeth ar hyn o bryd. Mae 83% o blant 5 oed yng Nghaerdydd a’r Fro wedi cael eu holl frechiadau plentyndod arferol, ond mae hynny’n dal i’n gadael gyda chyfran sylweddol o blant sydd heb eu brechu’n llawn.
“Rydym hefyd yn gwybod bod gan bobl mewn ardaloedd mwy cefnog gyfraddau brechu uwch. Mae angen i ni weithio’n galetach i gyrraedd y bobl hynny a allai ei chael hi’n anoddach sicrhau bod eu plant wedi cael yr holl frechiadau. Dyna pam ein bod yn gweithio’n agos gydag ysgolion i fynd i’r afael â hyn, ac rwy’n diolch i’r penaethiaid a’r staff mewn ysgolion am eu cefnogaeth barhaus.”
Yn ôl Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, mewn poblogaeth heb imiwnedd o gwbl, byddai person â’r frech goch, ar gyfartaledd, yn heintio 15 arall. Er mwyn rhoi hynny mewn persbectif, gyda’r ffliw byddai oddeutu 1.7 o bobl eraill, 2.1 ar gyfer COVID-19, 4.3 ar gyfer norofeirws ac 8 ar gyfer annwyd cyffredin. Mae’n golygu, o fewn cyfnod byr iawn o amser, y gall y frech goch ledaenu’n gyflym iawn.
Os oes gan feithrinfa neu ysgol achos wedi’i gadarnhau o’r frech goch, bydd yn rhaid i unrhyw un sydd heb gael ei frechu ynysu am dair wythnos (21 diwrnod) os ydynt yn gyswllt agos.
Mae haint y frech goch, sydd yn fwyaf cyffredin ymhlith plant, fel arfer yn clirio mewn tua 7 i 10 diwrnod. Mae symptomau cychwynnol y frech goch yn datblygu tua 10 diwrnod ar ôl i unigolyn gael ei heintio. Gall y rhain gynnwys:
Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, bydd brech goch-frown yn ymddangos. Mae hyn fel arfer yn dechrau ar y pen neu ran uchaf y gwddf cyn lledaenu tuag allan i weddill y corff.
Ychwanegodd Claire Beynon: “Cael y brechlyn MMR yw’r ffordd orau o amddiffyn eich plentyn ac eraill o’u cwmpas. Mae miliynau o ddosau o’r brechlyn wedi cael eu rhoi ledled y byd ers dros 30 mlynedd. Mae fersiwn o’r brechlyn nad yw’n cynnwys gelatin hefyd ar gael.”
Os ydych yn byw yng Nghaerdydd a’r Fro ac yn ansicr a yw eich plentyn wedi cael y brechlyn MMR, fe’ch anogir i wirio cofnod iechyd personol y plentyn (llyfr coch) yn y lle cyntaf. Os ydych yn parhau i fod yn ansicr, mae opsiynau eraill yn cynnwys:
Opsiynau eraill o ran ble i gael brechiad MMR:
Os hoffech drafod unrhyw beth yn ymwneud â’r brechlyn, cysylltwch â’r Tîm Imiwneiddio Nyrsio Ysgolion ar 02921847661/664 neu e-bostiwch Immunisation.CAVUHBschoolnursing@wales.nhs.uk