Neidio i'r prif gynnwy

Brechlyn HPV: Rhestr lawn o sesiynau 'dal i fyny' mewn ysgolion uwchradd

24 Ebrill 2024

Gall plant ysgolion uwchradd a gollodd y cyfle i dderbyn brechlyn sy’n cynnig amddiffyniad hanfodol yn erbyn sawl math o ganser gael mynediad at sesiynau ‘dal i fyny’ yn ystod yr wythnosau nesaf.

Bydd Tîm Imiwneiddio Nyrsio Ysgol Caerdydd a’r Fro yn dychwelyd i ysgolion rhwng mis Ebrill a Gorffennaf i roi’r brechlyn feirws papiloma dynol (HPV), sy’n cael ei gynnig am ddim i bob plentyn 12 a 13 oed ym Mlwyddyn 8.

Mae’r brechlyn wedi bod yn hynod effeithiol o ran lleihau’r risg o gael HPV, grŵp o fwy na 100 o feirysau sydd fel arfer yn cael eu trosglwyddo drwy gysylltiad croen â chroen.

Bydd y rhan fwyaf o bobl sy’n cael eu heintio â HPV yn clirio’r feirws o’u corff ac ni fyddant yn mynd yn sâl ond, i eraill, gall achosi dafadennau gwenerol neu hyd yn oed ddatblygu i fod yn rhai mathau o ganser, gan gynnwys canser ceg y groth ymhlith menywod, a chanserau’r pen a’r gwddf sydd fwyaf cyffredin ymhlith dynion.

Fel arfer nid oes gan HPV unrhyw symptomau, a dyna pam ei bod mor hawdd ei drosglwyddo. Bydd mwy na 70% o bobl nad ydynt wedi cael y brechlyn HPV yn cael HPV ar ryw adeg yn eu bywyd.

Ond hyd yma mae’r brechlyn wedi bod yn effeithiol iawn. Ers iddo gael ei gyflwyno yn 2008, mae wedi lleihau cyfraddau canser ceg y groth bron i 90% ymhlith menywod yn eu 20au.

Y gwanwyn hwn, bu Tîm Imiwneiddio Nyrsio Ysgol BIP Caerdydd a’r Fro yn ymweld ag ysgolion ar draws y rhanbarth i roi’r brechlyn HPV i ddisgyblion Blwyddyn 8, ynghyd â’r rhai ym Mlwyddyn 9, 10 ac 11 a fethodd eu brechlyn ym Mlwyddyn 8.

Fodd bynnag, bydd y tîm yn dychwelyd rhwng 29 Ebrill ac 11 Gorffennaf i frechu’r rhai na gafodd eu gweld yn ystod yr ymweliad cyntaf.

Os na dderbyniodd eich plentyn ei frechlyn HPV y tro cyntaf, cadwch lygad am ragor o wybodaeth gan yr ysgol ynghyd â dolen i’r ffurflen gydsyniad.

Mae’r rhestr lawn o ddyddiadau rhoi’r brechiad HPV fel a ganlyn:

29 Ebrill: Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd

7 Mai: Ysgol Uwchradd Cathays

14 Mai: Ysgol Uwchradd Mary Immaculate

16 Mai: Ysgol Bro Morgannwg

20 Mai: Ysgol Uwchradd Gatholig Illtud Sant

24 Mai: Ysgol Uwchradd Willows

3 Mehefin: Ysgol Plasmawr

4 Mehefin: Ysgol Gyfun y Bont-faen

5 Mehefin: Ysgol Bro Edern

6 Mehefin: Ysgol Glantaf

10 Mehefin: Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf

12 Mehefin: Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi

12 Mehefin: Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant

18 Mehefin: Ysgol Uwchradd Cantonian

20 Mehefin: Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd

25 Mehefin: Ysgol Uwchradd Caerdydd

3 Gorffennaf: Ysgol St Cyres

11 Gorffennaf: Ysgol Eastern High

Bydd dyddiadau pellach sesiynau ‘dal i fyny’ gyda’r brechiad HPV yn cael eu cadarnhau yn ddiweddarach.

Ym mis Mawrth, fe wnaeth Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i hyrwyddo pwysigrwydd y brechlyn HPV. Gallwch ddarllen rhagor amdano yma. Gweler hefyd y fideo gwybodaeth isod.

 
Dilynwch ni