17 Ebrill 2024
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi cael ein henwi’n Enillydd yng Ngwobrau Adnoddau Dynol Prydain 2024.
Mae Gwobrau Adnoddau Dynol Prydain yn ymgyrch flynyddol sy’n ceisio darganfod a dathlu’r sefydliadau a’r unigolion hynny sy’n wirioneddol angerddol am ddarparu profiad o’r radd flaenaf i bobl.
Eleni, cafwyd ychydig dros 300 o geisiadau gan sefydliadau ledled y DU. Bu’r gystadleuaeth i sicrhau buddugoliaeth yn arbennig o anodd. Roedd y cwmnïau a oedd yn cymryd rhan yn amrywio o fusnesau newydd, i’r sector cyhoeddus, busnesau technoleg, cewri byd-eang a phopeth yn y canol.
Cyhoeddwyd yr enillwyr mewn digwyddiad dathlu arbennig yn Llundain, a gynhaliwyd gan y digrifwr Fiona Allen. Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod BIP Caerdydd a’r Fro wedi ennill Gwobr “Menter Amrywiaeth a Chynhwysiant y Flwyddyn” ar gyfer rhaglen Project Search sydd yn ei 3edd flwyddyn yn y Bwrdd Iechyd.
Dysgwch fwy am Project Search yma: Dathlu Diwrnod Cenedlaethol Interniaeth a Gefnogir 2024 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (gig.cymru)