29 Awst 2023
Cyn bo hir bydd robotiaid llawfeddygol o’r radd flaenaf yn helpu i drin cleifion canser y colon a’r rhefr a chleifion gynaecolegol yng Nghwm Taf Morgannwg fel rhan o’r Rhaglen Llawdriniaeth drwy Gymorth Robot newydd.
Mae’r Bwrdd Iechyd bellach yn rhan o’r Rhaglen, sy’n gwella canlyniadau i gleifion canser drwy gynyddu nifer y cleifion ledled Cymru sy’n gallu cael llawdriniaethau mynediad lleiaf ymyrrol.
Mae llawdriniaeth mynediad lleiaf ymyrrol yn cynnig manteision cydnabyddedig i gleifion, o gymharu â llawdriniaeth agored, gan gynnwys llai o boen, creithiau ac amser gwella.
Mae’r Rhaglen yn cael ei chefnogi ledled Cymru gan £4.6m gan gyllid Llywodraeth Cymru ac mae wedi’i datblygu gan fyrddau iechyd, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a Menter Canser Moondance.
Mae robot partner y diwydiant CMR Surgical o’r enw ‘Versius’ yn galluogi llawfeddygon i berfformio triniaethau cymhleth yn fanwl gywir, gyda'r llawfeddyg yn gweithredu pedair braich robotaidd o gonsol annibynnol, agored.
Dywedodd y llawfeddyg ymgynghorol Paul Blake, sef yr arweinydd clinigol ar gyfer y rhaglen yn CTM: “Mae hwn yn gyfle gwych a chyffrous iawn i ddarparu’r llawdriniaeth mynediad lleiaf ymyrrol mwyaf modern a datblygedig i’r bobl sy’n byw yn rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
“Bydd llawdriniaeth robotaidd yn caniatáu i ni wneud llawdriniaeth ar ein cleifion gyda mwy fyth o fanylder a chraffter golwg, gan wella canlyniadau canser wrth leihau poen ar ôl llawdriniaeth a hyd arhosiad yn yr ysbyty.
“Bydd cael llawdriniaeth robotaidd yn ein Bwrdd Iechyd yn ein helpu i ddenu’r gorau oll o gydweithwyr llawfeddygol a nyrsio i weithio yma gyda ni, a fydd unwaith eto o fudd enfawr i’r cleifion rydym yn eu gwasanaethu.
“Rwy’n falch o fod yn rhan o’r datblygiad anhygoel hwn ac yn edrych ymlaen yn fawr at weld y buddion a ddaw yn sgil hyn i’r bobl sy’n cael llawdriniaethau.”
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn ymuno â Byrddau Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Besti Cadwaladr sydd, fel rhan o’r rhaglen, wedi bod yn defnyddio roboteg i drin cleifion canser y colon a’r rhefr a chleifion gynaecolegol dros y flwyddyn ddiwethaf.
Dywedodd prif glinigwr y rhaglen genedlaethol, Jared Torkington: "Mae Cymru yn symud ymlaen tuag at raglen robotig unedig ar draws ei holl ysbytai i ddarparu'r safon uchaf bosibl o ofal llawfeddygol ac i ddenu a chadw'r bobl orau i weithio yn y GIG yng Nghymru. Mae'r cyhoeddiad hwn yn newyddion gwych i staff a chleifion Cwm Taf Morgannwg ac mae'n cryfhau ymhellach Raglen Llawfeddygaeth â Chymorth Roboteg Cymru Gyfan."