Neidio i'r prif gynnwy

BIP Caerdydd a'r Fro yn ennill ddwywaith yng Ngwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd y DU 2024

30 Ebrill 2024 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn falch iawn o gyhoeddi bod cydweithwyr wedi derbyn dwy wobr yng Ngwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd y DU 2024

Bellach yn ei 19eg flwyddyn, mae’r gwobrau’n dod â gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwyddonwyr gofal iechyd ynghyd, i gydnabod a dathlu eu gwaith. Cyhoeddwyd enillwyr eleni mewn digwyddiad yn Llundain ddydd Gwener 26 Ebrill, dan arweiniad y darlledwr Eamonn Holmes.

Dyfarnwyd Gwobr Llywodraeth Cymru am Ofal Seiliedig ar Werth: Cynyddu Arbenigedd Gwyddonwyr Gofal Iechyd a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd i Wella Canlyniadau Cleifion i Catherine Washbrook-Davies, Arweinydd Maeth a Deieteg Cymru Gyfan ar gyfer Diabetes, Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro a Gweithrediaeth GIG Cymru. Cafodd Catherine a'i thîm eu cydnabod am ddefnyddio'u harbenigedd yn effeithiol i helpu i ddarparu gwasanaeth ymyrraeth i'r rhai y mae eu diabetes math 2 yn lleddfu.  Bu deietegwyr o bedwar bwrdd iechyd yn treialu’r dull Amnewid Deiet Cyflawn er mwyn hwyluso’r broses leddfu, dull sydd bellach yn cael ei fabwysiadu ledled Cymru.

 Dyfarnwyd Gwobr Arweinyddiaeth Glinigol y Proffesiynau Perthynol i Iechyd i Helen Nicholls, Pennaeth Gwasanaethau Maeth a Deieteg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Cydnabuwyd Helen fel enghraifft glir o arweinyddiaeth ymroddedig ac arloesol am ei chyfraniadau sylweddol i ofal iechyd, gyda dros 20 mlynedd o wasanaeth. Mae hi wedi sefydlu rhaglenni addysg diabetes a Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan, sydd bellach yn weithredol ar draws holl fyrddau iechyd Cymru.

 Derbyniodd cydweithwyr BIP Caerdydd a’r Fro hefyd enwebiadau yn y categorïau canlynol:

  • Gwobr am Arfer Creadigol ac Arloesol – Gwasanaeth Byw’n Dda Caerdydd a’r Fro, Robert Jones, Ffisiotherapydd a Chydlynydd Cydgynhyrchu a Huw Davies, Ffisiotherapydd ac Arweinydd y Gwasanaeth Byw’n Dda.
  • Y wobr am gyflawniad eithriadol gan brentis, gweithiwr cymorth neu dechnegydd anghofrestredig mewn gwasanaeth AHP neu wyddor gofal iechyd - Nia Haines , Arweinydd Awtomeiddio Technegol, Gwasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan.

     

Dilynwch ni