Neidio i'r prif gynnwy

Atal y gwasanaeth genedigaethau cartref dros dro

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi gwneud y penderfyniad anodd i atal ei wasanaeth genedigaethau cartref dros dro tan ddiwedd mis Hydref. Mae hyn oherwydd pwysau ar y gwasanaeth a phrinder staff tymor byr o fewn y gweithlu bydwreigiaeth.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra, amhariad a gofid y gall atal y gwasanaeth hwn dros dro ei achosi i fenywod, pobl sy’n geni a'u partneriaid sydd wedi cynllunio ar gyfer genedigaeth gartref yn ystod y cyfnod hwn.

Hoffem sicrhau pobl ein bod wedi ymrwymo i ddarparu gofal dan arweiniad bydwragedd a dewis ar gyfer man geni i bawb sy'n geni yng Nghaerdydd a'r Fro, a byddwn yn adfer y gwasanaeth genedigaethau cartref cyn gynted â phosibl.

Bydd ein huned dan arweiniad bydwragedd yn Ysbyty Athrofaol Cymru, sy'n cynnwys pedwar pwll, ystafelloedd cartrefol a chyfforddus, sy'n gallu darparu ar gyfer partneriaid dros nos, yn parhau ar agor yn ystod y cyfnod hwn.

Mae 35 o fydwragedd newydd sbon wedi cael eu cyflogi gan y Bwrdd Iechyd y mis hwn, a byddant yn gweithio o fewn gwasanaethau mamolaeth o 24 Hydref 2023. Disgwylir y bydd y gwasanaeth genedigaethau cartref yn weithredol o'r dyddiad hwn.

Rydym eisoes wedi rhoi gwybod i wahanol bartneriaid, gan gynnwys corff llais y dinesydd newydd, Llais, Aelodau lleol o'r Senedd ac Aelodau Seneddol am y penderfyniad hwn, ac wedi rhoi sicrwydd iddynt y byddwn yn darparu’r gwasanaeth yn y dyfodol.

Os ydych chi'n cynllunio genedigaeth gartref byddwch yn cael cynnig trafodaeth dewisiadau geni gyda bydwraig ymgynghorol i drafod eich opsiynau. Os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau am y penderfyniad hwn, a'r effaith y gallai hyn ei chael ar eich profiad geni, cysylltwch â'r Clinig Dewis Man Geni, sy'n cael ei redeg gan ein bydwragedd ymgynghorol, yn Birthchoices.cav@wales.nhs.uk

Dilynwch ni