Neidio i'r prif gynnwy

Arbenigwr Chwarae Ysbyty Hirsefydlog yn Ymddeol ar ôl 40 Mlynedd o Wasanaeth

13 Ebrill 2023

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn dathlu gwaith caled yr Arbenigwr Iechyd Plant, Juliet Hughes wrth iddi gyrraedd ei hymddeoliad ar ôl 40 mlynedd o fewn y GIG.

Dechreuodd Juliet ei gyrfa gofal iechyd yn Ysbyty Athrofaol Llandochau ym 1982, gan weithio fel nyrs feithrin NNEB a symudodd i ganolbwyntio ar chwarae ym 1999.

Yn 2001, cymhwysodd Juliet fel Arbenigwr Chwarae Ysbyty, rôl bwysig yn helpu i wneud plant yn gyfforddus a'u paratoi wrth iddynt dderbyn ymyriadau meddygol. Mae ei chreadigrwydd a’i gwaith o fewn chwarae therapiwtig wedi cefnogi nifer o bobl ifanc a’u teuluoedd drwy eu taith ysbyty.

Yn ystod ei gyrfa yn y GIG, mae Juliet wedi gofalu am fabanod, plant a phobl ifanc 0-18 oed drwy nifer o afiechydon. Mae hi bob amser yn ceisio dod o hyd i ffyrdd creadigol o helpu plant i ddeall eu cyflyrau a’u triniaethau ac mae wedi bod yn rhan annatod o’r Adran Chwarae Therapiwtig.

Mae Juliet yn uchel ei pharch gan holl deuluoedd Ward yr Ynys, a bydd colled ar ei hôl gan bob un ohonynt.

Dywedodd Rheolwr Gwasanaethau Chwarae, Sue Reardon, “Mae Juliet wedi cael effaith gadarnhaol ar gynifer o fywydau yn ystod ei gwasanaeth 40 mlynedd. Dymunaf bob hapusrwydd iddi ym mhennod nesaf ei bywyd.”

Ar ei hymddeoliad, dywedodd Juliet, “Rwyf mor ddiolchgar i’r GIG am roi gyrfa mor amrywiol a diddorol i mi.”

Diolchwn i Juliet am ei gwaith caled dros y 40 mlynedd diwethaf a dymunwn bob llawenydd iddi yn ei hymddeoliad.

Dilynwch ni