Neidio i'r prif gynnwy

Amser i drafod pethau? Ymgyrch newydd yn hyrwyddo gwasanaeth iechyd meddwl brys 24/7

Mae ymgyrch newydd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi’i lansio, sy’n atgoffa’r cyhoedd na ddylai neb ddioddef gyda’u hiechyd meddwl ar eu pen eu hunain.  

Lansiwyd yr ymgyrch ym mis Mawrth ac mae'n lledaenu ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth GIG 111 Pwyswch 2; gwasanaeth ffôn am ddim i’r rhai sydd angen cymorth iechyd meddwl ar frys. 

Mae’r gwasanaeth GIG 111 Pwyswch 2 ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, a’r cyfan sydd angen i chi ei wneud yw deialu 111 a dewis opsiwn 2. Gallwch ffonio’r rhif am ddim o linell dir neu ffôn symudol ac mae ar gael i unrhyw un sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.  

Gyda chefnogaeth gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol y GIG, nod y gwasanaeth yw cyfeirio unigolion at y gefnogaeth fwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion - gall hyn fod yn gyngor hunangymorth, awgrymiadau ac arweiniad, atgyfeiriad iechyd meddwl, sefydliad partner neu weithiwr proffesiynol sydd wedi'i hyfforddi'n addas.   

Mae data dros y flwyddyn ddiwethaf yn dangos mai dynion 30-39 oed oedd y garfan fwyaf o bobl sy’n byw yng Nghaerdydd a’r Fro a ddefnyddiodd y gwasanaeth, sef 37% o’r holl alwadau. Dilynwyd hyn gan fenywod 20-29 oed, sef 30% o alwadau. 

Mae'r ymgyrch yn targedu'r rhai sy'n defnyddio'r gwasanaeth fwyaf ar hyn o bryd gan ddefnyddio hysbysebion sain sy'n amlygu'r meddyliau cyffredin y gallai dioddefwyr iechyd meddwl eu cael, ac yn annog unigolion i gysylltu â’r gwasanaeth Pwyswch 2 am gefnogaeth. 

Mae'r ymgyrch hefyd yn targedu myfyrwyr gyda hysbysebion wedi’u hargraffu mewn prifysgolion lleol. 

Mae’r bwrdd iechyd hefyd wedi rhoi cyfrif am grwpiau allweddol nad ydynt yn defnyddio’r gwasanaeth cymaint, er mwyn sicrhau bod holl boblogaeth Caerdydd a’r Fro yn ymwybodol o’r gefnogaeth sydd ar gael ac yn gwybod ble i droi am gymorth. 

Gall anawsterau iechyd meddwl deimlo'n llethol, ond mae cymorth bob amser o fewn cyrraedd. Mae’r gwasanaeth 111 Pwyswch 2 yno i chi pan fydd angen brys ac argyfwng iechyd meddwl, ond mae llawer o wasanaethau eraill ar gael yng Nghaerdydd a’r Fro ar gyfer achosion nad ydynt mor ddifrifol.  

Ceir rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael ar wefan BIP Caerdydd a’r Fro ar y dudalen Sefydliadau Cymorth ac Elusennau

Dilynwch ni