Neidio i'r prif gynnwy

Ailgylchu Newydd yn y Gweithle

11 Mawrth 2024 [Wedi'i ddiweddaru: 22 Mawrth 2024]

Mae’r ffordd yr ydym yn cael gwared ar wastraff yn newid – ac rydym angen eich help i baratoi ar gyfer y newidiadau.

Mae cyfreithiau ailgylchu yn y gweithle yn newid wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi rheoliadau newydd ar gyfer pob busnes, sector cyhoeddus ac elusen.

O 6 Ebrill 2024, mae’r rheoliadau newydd ar gasglu a gwaredu gwastraff yn golygu y bydd yn ofynnol i bob busnes yng Nghymru wahanu eu gwastraff i’w ailgylchu drwy wahanu gwahanol eitemau ailgylchadwy i wahanol gynwysyddion gwastraff.

Ailgylchu yn y Gweithle yw'r set newydd o reoliadau safonol ar gyfer casglu a gwaredu gwahanol ffrydiau gwastraff.

O fis Ebrill ymlaen bydd angen i weithleoedd wahanu papur a cherdyn, gwydr, metel, plastig a chartonau, gwastraff bwyd, offer trydanol ac electronig yn ogystal â thecstilau.

Rhaid cadw pob grŵp o ddeunyddiau ar wahân i'w gilydd, gan na chaniateir rhoi'r holl wastraff mewn un bin.

Rhoddir cosb ariannol benodedig (FMP) o rhwng £300 a £500 i weithleoedd a busnesau os byddant yn torri’r rheoliadau.

Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, rydym eisoes yn gweithio’n galed i leihau ein hôl troed amgylcheddol ac rydym eisoes yn ailgylchu bwyd, metel, papur a chardbord, plastigau a chaniau, pren, gwydr, offer trydanol gwastraff, fêps yn ein gwasanaethau iechyd meddwl ac yn ailgylchu brwsys dannedd.

O fewn dim ond naw mis o flwyddyn ariannol 2023/2024, mae 646 tunnell o’n gwastraff peryglus clinigol mewn bagiau oren wedi cael Triniaeth Gwres Amgen. Ar ddiwedd y broses hon caiff ei rwygo gan Atlantic Recycling ac yna ei ddefnyddio fel tanwydd ar gyfer odyn sment Aberddawan ym Mro Morgannwg.

Mae'r holl wastraff bwyd o wasanaethau manwerthu ac arlwyo cleifion yn cael ei wahanu oddi wrth bob gwastraff arall tra bod elusen Elite wedi casglu 22 tunnell o gardbord i wneud deunydd gorwedd i anifeiliaid.

Mae ein Tîm Cynaliadwyedd hefyd yn herio cydweithwyr i weithredu ar gyfer y dyfodol a llofnodi Addewid Cynaliadwyedd gydag ymrwymiadau misol i wneud newidiadau bach er lles y blaned yn 2024, y thema ar gyfer mis Mawrth yw ailgylchu.

Wrth inni baratoi i’r ddeddfwriaeth newydd ddod i rym, byddwn yn gofyn i chi ein helpu i baratoi ar gyfer y newidiadau nawr. Yn lle cael gwared ar wastraff bwyd yn y biniau o amgylch y bwrdd iechyd os na allwch ddod o hyd i fin gwastraff bwyd penodol, ewch â'ch gwastraff bwyd adref gyda chi.

Mae'r gyfraith newydd hefyd yn cynnwys gwaharddiad ar anfon unrhyw wastraff bwyd i'r carthffosydd naill ai i lawr y sinc neu mewn draen neu doiled.

Mae’r broses o wahanu cardbord, papur ac ati ar waith yn Nhŷ Coetir, Ysbyty’r Barri ac Ysbyty Brenhinol Caerdydd, fodd bynnag bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno ar draws y BIP cyn mis Hydref 2025. Bydd y tîm gwastraff yn cysylltu ag ardaloedd dros y misoedd nesaf.

Dilynwch ni