Neidio i'r prif gynnwy

Agor Ystafell Weddïo newydd yn Ysbyty'r Barri

14 Mehefin 2023

Mae ystafell bwrpasol i fynd i gael heddwch, tawelwch a gweddïo wedi agor yn ddiweddar yn Ysbyty'r Barri. Bydd yr ystafell, o'r enw Hafan, yn cael ei defnyddio gan staff, cleifion ac aelodau o'r teulu sydd am gymryd seibiant i oedi a myfyrio.

Cafodd yr ystafell ei chyflwyno a'i chomisiynu gyda chyfres o ddarlleniadau, myfyrdodau a gweddïau yng nghwmni Caplaniaid yr ysbyty a chynrychiolwyr o Soroptimyddion Rhyngwladol y Barri a'r Cylch.

Dywedodd y Parch. Jason Tugwell, Caplan Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Caerdydd a'r Fro: “Mae gennym fannau pwrpasol ar gyfer gweddïo a myfyrio yn y rhan fwyaf o’n safleoedd ysbyty ac roeddem wedi cael cais gan staff a chleifion i gael ystafell debyg yn Ysbyty'r Barri. Gyda chymorth caredig a hael Soroptimyddion Rhyngwladol y Barri a'r Cylch, roeddem yn gallu gwireddu'r dymuniad hwn.”

Mae'r ystafell yn lle tawel a chroesawgar, gyda seddi cyfforddus, matiau gweddi, penlinwyr, beiblau a llyfrau gweddi i bawb eu defnyddio, pan fydd angen iddynt ddod o hyd i heddwch.

Helpodd Soroptimyddion Rhyngwladol y Barri a'r Cylch i ddarparu ffilm ffenestr wydr lliw hardd, ffotograffau ystyrlon i ychwanegu naws i'r ystafell, ynghyd ag eitemau â thema grefyddol wedi'u cerfio â llaw i'w defnyddio ar gyfer addoli. Darparwyd hefyd ddetholiad o wahanol lenyddiaeth grefyddol a phenliniwyr i'w defnyddio i weddïo.

Dywedodd y Soroptimydd Jackie Memory: “Rydym wedi gweithio'n agos gyda'r Brif Nyrs Linda ar Ward Sam Davies ers nifer o flynyddoedd ac roeddem yn awyddus i gefnogi'r fenter werth chweil newydd hon. Defnyddiodd yr aelodau eu sgiliau a'u cysylltiadau amrywiol i ddodrefnu'r ystafell fel y byddai'n ofod deniadol a thawel. Gwnaeth yr elw o'r cardiau Soroptimyddion a oedd ar werth yn nerbynfa'r ysbyty hefyd helpu i ariannu Hafan. Rydym yn falch o glywed ei fod eisoes yn cael ei ddefnyddio.”

Dywedodd Angela Hughes, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Profiad y Claf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: “Mae mor bwysig bod gan ein staff, ein cleifion a'n teuluoedd ofod pwrpasol i'w ddefnyddio i gymryd amser i oedi a myfyrio. Rwyf wrth fy modd bod yr ystafell hon bellach ar gael i bobl ei defnyddio a hoffwn ddiolch i Soroptimyddion Rhyngwladol y Barri a'r Cylch am eu cymorth caredig i wneud yr ystafell hon yn lle mor arbennig.”

Mae'r ystafell ar y llawr cyntaf yn Ysbyty'r Barri ac mae ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos i'r rhai sydd angen ei defnyddio. I gael rhagor o wybodaeth am Wasanaethau Caplaniaeth ledled BIP Caerdydd a'r Fro, ewch i: https://bipcaf.gig.cymru/gwybodaeth-i-staff/staff-benefits/support-networks/chaplaincy/

Dilynwch ni