“Mae’n hawdd meddwl bod yr hyn rydyn ni’n ei fwyta a sut rydyn ni’n symud yn ddewis cwbl bersonol – fodd bynnag, rydyn ni’n cael ein dylanwadu’n gyson gan yr hyn sydd o’n cwmpas”.
Dyna neges Claire Beynon, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, wrth iddi lansio ei hadroddiad blynyddol yn nodi sut - trwy ddull system gyfan gydweithredol - y gallwn greu newid i helpu i atal gordewdra a diabetes math 2.
Yn dwyn y teitl ‘Yr hyn sy’n ein hamgylchynu, sy’n ein siapio ni', mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod y cyflyrau hyn yn gysylltiedig â'i gilydd a bod modd atal y ddau i raddau helaeth.
Rydym yn cael ein dylanwadu'n gyson gan y byd o'n cwmpas. Mae'r lleoedd rydyn ni'n treulio amser ynddynt - fel ysgolion, gweithleoedd a chlybiau chwaraeon - yn siapio ein dewisiadau. Mae'r mannau wrth ymyl lle rydym yn byw, gan gynnwys cymdogaethau, y stryd fawr, parciau, meysydd chwarae a llwybrau trafnidiaeth, hefyd yn chwarae rhan. Yn ogystal, mae'r bobl rydyn ni'n eu hadnabod, ynghyd â pholisïau, deddfau a normau diwylliannol, yn effeithio ar sut rydyn ni'n byw.
Gan fod cymaint o ffactorau’n dylanwadu ar ein bywydau beunyddiol, mae atal gordewdra a diabetes math 2 yn her gymhleth.
Mae'r adroddiad yn galw am symud o ddulliau traddodiadol sydd wedi canolbwyntio ar newid ymddygiadau unigol i ddull sy'n cydnabod ac yn cyfeirio newid at y dylanwadau ehangach sy'n effeithio ar sut rydym yn byw, gan gynnwys y bwyd rydym yn ei fwyta a sut rydym yn symud.
Yn ystod y cenedlaethau diwethaf, mae'r ffordd rydym yn byw wedi newid. Er enghraifft, bu cynnydd mawr mewn siopau bwyd cyflym, mae amseroedd egwyl ysgol yn fyrrach gyda llai o amser i chwarae, mae llai o blant yn cerdded i'r ysgol, rydym yn treulio mwy o amser yn eistedd yn y gwaith, mae ein rhwydweithiau ffyrdd wedi'u cynllunio ar gyfer ceir ac mae llai o blant yn chwarae y tu allan. Mae hyn yn effeithio ar ein hiechyd ac yn cyfrannu at nifer y bobl sy'n byw gyda gordewdra a diabetes math 2 yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Mae gwahaniaethau annheg ar draws ein cymunedau hefyd, gyda mwy o oedolion er enghraifft yn byw gyda gordewdra yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig.
Mae'r adroddiad yn nodi tair galwad i weithredu:
1. Canolbwyntio ar atal: Blaenoriaethu atal ac ailgyfeirio gwariant at atal ar y cam cynharaf, gan roi atal wrth wraidd ein holl benderfyniadau ac atal y dylanwadau cyn iddynt ddigwydd.
2. Creu mannau a lleoedd cefnogol: Dylunio’r lleoedd a'r mannau lle rydym yn byw ac yn treulio ein hamser fel eu bod yn cefnogi ac yn galluogi pobl i symud a chael gafael ar fwyd iach.
3. Rhoi cymunedau wrth wraidd popeth: Datblygu atebion gyda'n gilydd sy'n adlewyrchu anghenion, blaenoriaethau a syniadau unigryw cymunedau, cydlynu ein hymdrechion ar y cyd tuag at ein nodau cyffredin.
Dywedodd Claire Beynon: “Mae angen i ni roi’r gorau i feddwl am ordewdra a diabetes math 2 fel problemau y gall unigolion eu datrys ar eu pen eu hunain. Rydym yn cael ein siapio gan y byd o'n cwmpas - ein strydoedd, ein hysgolion, ein gweithleoedd, a'n normau diwylliannol.
“Os ydym yn dylunio ac yn adeiladu ein lleoedd a’n mannau fel eu bod yn galluogi pobl i symud a chael gafael ar fwyd iach, gallwn atal y cyflyrau hyn rhag digwydd yn y lle cyntaf. Rhaid inni weithredu i atal y dylanwadau sy'n arwain at ordewdra a diabetes math 2.”
Mae cynnydd eisoes ar y gweill drwy'r 'Fframwaith Bwyd Da a Symud (2024-2030)'. Drwy’r dull system gyfan, mae 'Bwyd Da a Symud’ yn dwyn ynghyd ystod eang o bartneriaid a rhanddeiliaid i ddatblygu camau gweithredu yn erbyn pedwar thema allweddol; Amgylchedd Iach, Lleoliadau Iach, Pobl Iach, ac Arweinyddiaeth a Galluogi Newid gan ganolbwyntio’r dull cydweithredol ar fynd i’r afael â’r dylanwadau ehangach o’n cwmpas.
Ychwanegodd Claire: “Rydym eisoes yn gwneud rhywfaint o gynnydd gwych ond mae angen i ni fynd ymhellach a gweithredu’n gyflymach os ydym am leihau nifer y bobl sy’n byw gyda, ac yn profi canlyniadau’r cyflyrau iechyd hyn.
“Mae newid yn bosibl. Gyda'n gilydd, gallwn ni i gyd chwarae rhan wrth sicrhau bod bwyd da a symud yn rhan o fywyd pawb.”
Am yr adroddiad llawn a rhagor o wybodaeth, ewch i yma neu cysylltwch â GoodFood.Movement@wales.nhs.uk .
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.