20 Medi 2024
Mae 20 Medi yn nodi #Red4Research - diwrnod sy'n benodol i bawb sy’n cyfranogi at ymchwil, yn ei gefnogi a’i gynnal.
Pan fydd rhywun yn cael diagnosis o glefyd neu gyflwr iechyd, bydd eu triniaeth, gofal a chymorth yn cael eu llywio gan ymchwil. Trwy gymryd rhan mewn ymchwil, gallwch gyfrannu at gymorth sy'n newid bywydau i'r rhai mewn angen.
Dyma bum rheswm pam y dylech ystyried archwilio ymchwil yn eich ardal chi.
Gall unrhyw un gymryd rhan mewn ymchwil. Os yw cyflwr iechyd penodol sy'n cael ei astudio yn effeithio’n uniongyrchol arnoch, os oes gennych gyflwr iechyd nad yw'n gysylltiedig neu os nad oes gennych gyflwr iechyd o gwbl; gallwch chi gymryd rhan.
Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae ymchwilwyr NIHR wedi adrodd dros 6,500 o achosion lle mae eu hymchwil wedi dylanwadu ar bolisi iechyd a gofal. Trwy gymryd rhan mewn unrhyw waith ymchwil, gallech fod yn rhoi gobaith i chi'ch hun neu gleifion eraill sydd newydd gael diagnosis am well gofal, triniaeth ac ansawdd bywyd.
Mae miloedd o bobl yn cymryd rhan mewn ymchwil bob blwyddyn. Gallech fod yn rhan o ddylunio astudiaeth ymchwil, hyrwyddo ymchwil yn eich ardal leol neu wirfoddoli fel cyfranogwr mewn astudiaeth neu dreial. Dewch o hyd i'ch rôl berffaith yma.
Gall ymchwil helpu i ddatblygu ffyrdd newydd ac effeithlon o drin a gofalu am bobl. Er enghraifft, canfu ymchwil gan yr NIHR a chyllidwyr eraill y gall prawf troponin sensitifrwydd uchel (HST) nodi a yw person yn cael trawiad ar y galon ai peidio yn gyflym ac yn gywir, gan arbed dros £100 miliwn i’r GIG bob blwyddyn. Darllenwch fwy am y prawf HST a’r llinell amser ymchwil yma.
Er bod y rhan fwyaf o afiechydon yn dechrau yn ystod plentyndod, cynhelir y rhan fwyaf o'r ymchwil iechyd ymhlith oedolion. Gall plant 0-15 oed gymryd rhan mewn ymchwil sy'n cynnwys diabetes, cyflyrau imiwn, iechyd meddwl a chyflyrau prin gan greu gwell gofal iechyd i blant a'u datblygiad i fywyd oedolyn. I ddarganfod mwy, cliciwch yma.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymchwil sy'n digwydd yn eich ardal chi, darganfyddwch fwy ar wefan NIHR.