Neidio i'r prif gynnwy

Adran Staffio Dros Dro

Mae'r Bwrdd Iechyd yn cyflogi tua 14,500 o staff ac yn darparu gwasanaethau iechyd i boblogaeth o oddeutu 472,400 o bobl sy'n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Rydym hefyd yn gwasanaethu poblogaeth ehangach ledled de a chanolbarth Cymru ar gyfer amrywiaeth o arbenigeddau, ac yn gwerthfawrogi sgiliau a phrofiad ein gweithlu dros dro sy'n allweddol i ddarparu gofal diogel ac effeithiol.

Rydym yn chwilio am weithwyr iechyd proffesiynol ymroddedig i weithio ar draws ein safleoedd ysbyty a'n meysydd gwasanaeth amrywiol:

  • Ysbyty Athrofaol Cymru
  • Ysbyty Athrofaol Llandochau
  • Ysbyty'r Barri
  • Ysbyty Dewi Sant
  • Gofal Sylfaenol

Sut i ymgeisio neu neilltuo sifftiau

Mae'r Adran Staffio Dros Dro ar agor fel a ganlyn:

Dydd Llun i ddydd Gwener: 8:30am tan 6:30pm
Dydd Sadwrn: 8:30am tan 4:30pm

Os hoffech neilltuo sifft gronfa ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, cysylltwch â ni ar 029 2071 6200 a bydd aelod o'r tîm Staffio Dros Dro yn falch o'ch helpu.

Edrychwn ymlaen at glywed gennych.

Mae'r Swyddfa Staffio Dros Dro wedi'i lleoli yn:

Ysbyty Athrofaol Llandochau
Heol Penlan
Llandochau
CF64 2XX

Buddion gweithio dros dro

Mae llawer o fuddion yn gysylltiedig â gweithio dros dro, gan gynnwys y canlynol:

  • Rydych yn derbyn gwaith pan fyddwch ar gael
  • Rhaglenni cynefino yn ogystal â threfniadau lleol i ymgyfarwyddo ag aseiniadau
  • Mynediad at gyfleoedd hyfforddi perthnasol ac addysg barhaus
  • Gwisgoedd unffurf rhad ac am ddim
  • Mynediad at gynllun pensiwn y GIG
  • Cyfleoedd i weithio mewn amrywiaeth o amgylcheddau'r GIG
  • Cyfle gwell i ddod o hyd i swydd barhaol yn y Bwrdd Iechyd

A yw gweithio dros dro yn addas i chi?

A yw unrhyw un o'r cwestiynau canlynol yn berthnasol i chi?

  • Ydych chi'n nyrs gofrestredig sydd eisiau dychwelyd i yrfa nyrsio ar ôl seibiant gyrfa, neu'n chwilio am swydd barhaol ond heb fod yn barod i ymrwymo eto, neu'n syml eisiau gweithio oriau ychwanegol?
  • Ydych chi'n nyrs anghofrestredig sy'n chwilio am waith achlysurol neu reolaidd mewn amgylchedd gofalgar a chyfeillgar?
  • Ydych chi'n nyrs dan hyfforddiant neu'n Weithiwr Cymorth Gofal Iechyd presennol sydd eisiau gweithio oriau ychwanegol?

Os felly, mae arnom angen pobl fel chi! Rydym yn chwilio am Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd sy'n gallu gweithio'n effeithiol mewn amrywiaeth o leoliadau, wardiau ac adrannau fel rhan o dîm amlddisgyblaethol. Mae'n rhaid bod gennych brofiad o ddarparu gofal yn y rôl hon neu rôl gyfatebol mewn sefydliad sy'n darparu gofal iechyd.

 

Dilynwch ni