Neidio i'r prif gynnwy

Eich arhosiad claf mewnol

Eich Derbyn

Rhoddir eich amser derbyn yn eich llythyr derbyn. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar eich llythyr, oherwydd efallai y gofynnir i chi gysylltu â'r ward ar eich dyddiad derbyn i wirio bod gwely ar gael. Mewn amgylchiadau eithafol, lle nad oes gwely ar gael, bydd staff y ward yn rhoi gwybod i chi am drefniadau amgen.

Os ydych chi'n cael anhawster i gadw at eich dyddiad neu amser derbyn, ffoniwch y rhif a roddir ar eich llythyr derbyn, fel y gellir gwneud trefniadau amgen ar eich cyfer (ac i'n galluogi i ailddyrannu'ch gwely).

Ar ôl cyrraedd, dylech gyflwyno eich hun i uwch nyrs y ward/nyrs â gofal neu'r nyrs â gofal ar y pryd. Byddant yn trefnu i chi gael eich dangos i'ch gwely, ac yn dweud wrthych pwy fydd eich nyrs a enwir (y person sy'n gyfrifol am eich gofal nyrsio trwy gydol eich arhosiad).

Os oes gennych unrhyw anghenion arbennig neu os ydych yn anabl, ac yr hoffech gael gwybodaeth neu help ychwanegol cyn ichi gyrraedd, cysylltwch ag uwch nyrs y ward neu'r nyrs â gofal, a all sicrhau bod eich anghenion yn cael eu diwallu'n llawn.

Beth i Ddod gyda Chi

Mae rhestr o eitemau hanfodol a defnyddiol yr hoffech efallai ddod â nhw gyda chi ar gael er gwybodaeth. Sylwch fod y lle storio sydd ar gael ar y wardiau yn gyfyngedig.

Dod â bwyd i'r ysbty

Pan fyddwch chi'n sâl, rydych chi'n fwy agored i heintiau. Felly gofynnwn ichi beidio â dod â bwydydd darfodus i mewn, a allai fod yn ffynhonnell bosibl o wenwyn bwyd, gan nad oes storfa dan reolaeth tymheredd ar gael wrth erchwyn y gwely. Gellir dod â'r byrbrydau a'r diodydd canlynol i'r ysbyty yn ddiogel i'w gadael wrth erchwyn gwely'r claf:

  • losin, siocled, creision, bisgedi, cacennau plaen fel Madeira neu gacen ffrwythau, diodydd pefriog, sgwash, ffrwythau wedi'u golchi ymlaen llaw.

Os rhagnodir diet arbennig i chi, gwnewch yn siŵr mai dim ond y bwydydd a argymhellir gan ddeietegydd eich ward yr ydych yn ddod gyda chi.

Gall ymwelwyr ddod â bwydydd eraill i mewn os ydynt i'w bwyta ar unwaith, ond ni fyddem yn argymell y dylid gadael y rhain yn amgylchedd cynnes y ward.

Mae'r Adran Arlwyo bob amser yn ceisio ei gorau i ddarparu'r eitemau bwyd sydd eu hangen ar gleifion. Os oes gennych broblem benodol, neu'n ansicr ynghylch yr hyn y gallwch ddod i mewn gyda chi, trafodwch hyn gyda'ch rheolwr ward neu ddietegydd ward.

Ymholiadau

Dim ond dros y ffôn y gall staff ward roi adroddiadau cyffredinol, byr ar eich cyflwr i'ch perthnasau. Os oes angen gwybodaeth fanylach ar eich perthnasau, dylent siarad â'r nyrs sy'n gyfrifol am eich gofal, a all roi manylion llawnach iddynt pan fyddant yn ymweld, neu drefnu iddynt weld un o'ch meddygon, os dymunwch.

Byddai'n ddefnyddiol pe gallai'ch teulu a'ch ffrindiau drefnu system gyfathrebu ymysg ei gilydd er mwyn osgoi'r angen am nifer o alwadau i'r ward. Gall hyn wneud y llinellau ffôn yn brysur ac achosi oedi, a hefyd mae'n tynnu staff nyrsio oddi wrth eu prif ddyletswydd i ofalu am gleifion. Byddwn yn cynghori ffrindiau agos a pherthnasau am eich cynnydd cyffredinol oni bai eich bod yn gofyn yn benodol i ni beidio â rhannu'r wybodaeth hon.

Addysgu Myfyrwyr

Mae'r BIP yn Fwrdd Iechyd sy'n addysgu, ac felly mae'n bosibl y bydd myfyrwyr meddygol a/neu myfyrwyr nyrsio ynghlwm wrth dimau sy'n gofalu amdanoch chi.

Gall y myfyrwyr hyn fynd gydag aelodau eraill eich tîm ar rowndiau ward, a gallant gynorthwyo mewn ffyrdd eraill hefyd. Gobeithiwn y byddwch yn cytuno iddynt gael eu dysgu yn y modd hwn. Fodd bynnag, os yw'n well gennych i fyfyrwyr beidio â bod yn bresennol ar unrhyw adeg, bydd eich dymuniadau'n cael eu parchu. Mae'n anochel y bydd myfyrwyr nyrsio yn ennill profiad ymarferol ar eich ward, fel y gall staff eraill y Gwasanaeth Iechyd sy'n derbyn hyfforddiant. Byddem yn gwerthfawrogi eich dealltwriaeth a'ch cefnogaeth wrth iddynt ddysgu.

 

Dilynwch ni