Neidio i'r prif gynnwy

Aros am eich triniaeth

Gofal heb fod yn frys ac Amseroedd Aros

Mae YAC wedi ymrwymo i sicrhau bod cleifion yn cael eu trin yn y lle iawn, ar yr adeg iawn, gan y clinigwr iawn.

Nid yw hyn bob amser yn golygu mai gweld ymgynghorydd mewn ysbyty arbenigol mawr, fel Ysbyty Athrofaol Cymru, yw'r ateb bob amser.

Er enghraifft, os oes gennych boen cefn, gallai triniaeth geidwadol, fel ffisiotherapi, fod yn fwy priodol na thriniaeth ymwthiol, fel llawdriniaeth.

Fel rheol, darperir y math hwn o driniaeth yn fwy lleol, er enghraifft mewn meddygfa neu ysbyty cymunedol.

Bydd staff y Bwrdd Iechyd yn gweithio gyda chi i sicrhau eich bod yn derbyn y gofal gorau posibl, ac i sicrhau bod eich triniaeth yn rhoi'r canlyniad gorau posibl i chi. Fodd bynnag, gallwch chi hefyd chwarae rhan yn hyn. Bydd cymryd ymarfer corff yn rheolaidd, bwyta'n iach a pheidio ag ysmygu i gyd yn cyfrannu at eich llesiant.

Cymerwch gip ar adran Hybu Iechyd ein gwefan i gael mwy o wybodaeth a chyngor ynghylch gofalu amdanoch chi'ch hun

Pa mor hir fydd rhaid i chi aros am driniaeth?

Pan atgyfeirir chi at ymgynghorydd, fel rheol bydd eich triniaeth yn cychwyn o fewn 26 wythnos ar ôl yr atgyfeiriad. Nid yw hyn bob amser yn bosibl - gall fod rhesymau clinigol da dros gymryd mwy o amser, megis monitro eich cyflwr neu gynnal ymchwiliadau, fel bod eich triniaeth yn y pen draw mor llwyddiannus â phosibl. Yn y mwyafrif helaeth o achosion, ni ddylai cleifion aros mwy na 36 wythnos.

Os ydych chi'n aelod o'r lluoedd arfog (gan gynnwys y Fyddin Diriogaethol), mae gennych chi ac aelodau o'ch teulu yr hawl i'r warant hon hefyd. Os cewch eich atgyfeirio atom, bydd unrhyw gyfnod yr ydych wedi aros am yr un driniaeth mewn ysbyty arall yn y DU yn cael ei ystyried. Rhowch y manylion hyn i ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn gynllunio'ch triniaeth yn unol â hynny.

Mae'r targedau 26 i 36 wythnos uchod yn berthnasol yn genedlaethol, felly mae'n hanfodol eu bod yn cael eu mesur yn yr un ffordd ledled Cymru. Mae Llywodraeth Cymru (LlC) wedi nodi cyfres o reolau y mae'n rhaid i YAC eu dilyn i wneud hyn.

Yn gyffredinol, mae hyn yn golygu mai'r cyfnod rydych chi fel claf wedi bod yn aros yw'r cyfnod rydych chi wedi bod yn barod ac abl i dderbyn triniaeth. Er enghraifft, pe byddech wedi cytuno i gael triniaeth ond yna wedi archebu gwyliau pedair wythnos, byddech yn cael eich ystyried fel pe baech wedi aros pedair wythnos yn llai mewn perthynas â'r targed.

Sut Allwch Chi Helpu?

Fel claf, mae gennych rôl allweddol i'w chwarae wrth helpu'r BIP i ddefnyddio ei adnoddau mor effeithiol â phosibl, a sicrhau bod amseroedd aros mor fyr â phosibl. 

Cofiwch

  • Gadewch inni wybod cyn belled ymlaen llaw â phosibl os nad ydych yn gallu mynychu apwyntiad - efallai y bydd yn bosibl cynnig yr apwyntiad hwn i rywun arall. Mae hyn yn golygu bod y claf sy'n ôl-lenwi'r apwyntiad (ac efallai mai chi fydd y claf hwnnw) yn aros llai o amser, a bod adnoddau (staff ac offer) yn cael eu defnyddio'n llawn. Mae'r adran ar newid eich apwyntiad yn rhoi mwy o wybodaeth i chi.
  • Dilynwch unrhyw gyfarwyddiadau a roddir ichi cyn mynychu, fel “dim trwy'r geg” cyn llawdriniaeth. Os na wnewch hyn, efallai y bydd yn rhaid canslo'r apwyntiad ar fyr rybudd, a bydd yn rhy hwyr i gynnig yr apwyntiad i rywun arall.
  • Sicrhewch fod gennym eich manylion cyswllt, a dywedwch wrthym os yw unrhyw un o'ch manylion yn newid.
  • Gadewch i ni wybod os ydych yn newid eich meddwl ynglŷn â chael eich triniaeth, neu os ydych chi'n derbyn unrhyw ran o'ch triniaeth yn breifat.
Dilynwch ni