Mae gennym sawl ystafell i'w llogi o wahanol feintiau a gallwn ddarparu ar gyfer digwyddiadau gan gynnwys seminarau, gweithdai, darlithoedd, cyfarfodydd ystafell bwrdd, arholiadau, partïon priodas a phartïon bedydd.
Gall y digwyddiadau hyn fod mewn amgylchedd ffurfiol neu llai ffurfiol, yn dibynnu ar eich gofynion.
Mae'r ystafell hon yn ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd bach, partïon plant/teulu, seminarau, arddangosfeydd bach, gweithdai, ac ati. Mae ganddi lawr carped llawn heb seddi sefydlog, felly, gellir darparu ar gyfer amrywiaeth o gynlluniau eistedd/byrddau. Yn cynnwys cyfrifiadur pen desg wedi'i adeiladu i mewn, taflunydd ac offer powerpoint proffesiynol.
Mae maint yr ystafell hunangynhwysol hon, gyda'i llawr sbring pren, ynghyd ag ardal lwyfan lawn a Bar preifat, yn ei gwneud yn ddelfrydol ar gyfer digwyddiad mwy, e.e. priodasau, cyflwyniadau chwaraeon/ elusennol, arddangosfeydd, gemau bocsio, ceilidhs, bandiau byw, seminarau, gweithdai, digwyddiadau dawns, ac ati.
Yn union ger y bar a'r Lolfa, mae dau fwrdd pŵl, byrddau dartiau a gemau eraill yn yr Ystafell Jiwbilî. Gellir ei thrawsnewid yn ystafell gyfarfod i ddarparu ar gyfer hyd at 40 o bobl. Ymhlith y cyfleusterau mae WiFi a galluoedd taflunydd/cyflwyno.
Mae hon yn neuadd chwaraeon amlbwrpas sy'n darparu ar gyfer amrywiaeth o chwaraeon dan do. Hefyd yn gartref i ddetholiad mawr o offer chwarae meddal i blant - gan gynnwys castell bownsio a llawer mwy!