Neidio i'r prif gynnwy

Ward Sant Barruc

Ward asesu cleifion mewnol yw Sant Barruc, a chanddo 20 o welyau. Mae ar gyfer gwrywod a benywod sy'n dioddef o afiechydon megis Dementia fel clefyd Alzheimer neu Ddementia Amlgnawdnychol (MID). I gael gwybod rhagor am glefyd Alzheimer a MID, gallwch droi at wefannau Cymdeithas Alzheimer's a'r Sefydliad Anhwylderau Niwrolegol a Strôc (NINDS) (gwefannau allanol).

Mae'r broses asesu ar ward Sant Barruc yn digwydd dros nifer o wythnosau gan ddibynnu ar angen yr unigolyn. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y Brif Nyrs a'r Tîm Amlddisgyblaethol yn canfod gweithrediad corfforol, seicolegol, cymdeithasol ac emosiynol y claf. Mae'r Tîm Amlddisgyblaethol ar y ward yn cynnwys: 

  • Ymgynghorwyr
  • Meddygon Ward
  • Nyrsys
  • Therapydd Galwedigaethol 
  • Ffisiotherapydd
  • Gweithwyr Cymdeithasol
  • Nyrsys Cymunedol
  • Therapyddion Lleferydd ac Iaith
  • Dietegwyr
  • Staff cymhennu

Diben yr asesiad yw galluogi cleifion i gael cynllun gofal a thriniaeth cynhwysfawr unigol tra byddant yn yr ysbyty a hefyd i gael eu rhyddhau i amgylchedd sy'n briodol i'r anghenion a nodwyd iddynt.

I alluogi a chefnogi'r tîm gofal i roi gofal o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac i gynorthwyo i gynyddu lles, mae gan ward Sant Barruc Nyrs Ffocws Newydd. Mae'r Nyrs Ffocws Newydd yn gweithio gyda'r tîm gofal i sicrhau bod gweithgareddau unigol a grŵp yn dod yn rhan annatod o drefnau gofal a byw dyddiol. Mae'r Nyrs Ffocws Newydd yn mabwysiadu dull hanes bywyd i sicrhau bod profiad gofal y claf yn cynnwys hoffterau, ffyrdd o fyw, diddordebau, gwerthoedd a chredoau unigol.

Oriau Ymweld

I ddiogelu ein cleifion a'n staff yn ystod pandemig COVID-19, mae pob ymweliad drwy apwyntiad yn unig. Darllenwch ragor am drefnu ymweliad

Dyma'r amseroedd ymweld ar Ward Sant Barruc:
13:00 – 16:00
18:00 – 20:00

Cysylltu

Rhif Cyswllt y Ward - 01446 704181

 

 

Dilynwch ni