Neidio i'r prif gynnwy

Uned Mân Anafiadau - Ysbyty'r Barri

I gael at y Gwasanaeth Mân Anafiadau yn Ysbyty'r Barri, rhaid ichi Ffonio Ymlaen Llaw.

Drwy ffonio 111, bydd rhywun yn ymdrin â'r alwad ac yn gwneud asesiad cychwynnol. Os oes angen, byddwch yn cael apwyntiad yn yr Uned Mân Anafiadau. Dim ond y rhai sy'n ffonio ymlaen llaw a fydd yn cael eu derbyn gan yr Uned hon. Mae hyn yn benodol o bwysig oherwydd nid oes gennym yr un gallu yn y Barri ag sydd gennym yn YAC i sgrinio pobl sy'n cerdded i mewn am Covid-19.

Gellir trin yr anafiadau canlynol yn Uned Mân Anafiadau'r Barri:

  • briwiau a chrafiadau
  • ysigiadau
  • torri esgyrn breichiau neu goesau (toresgyrn)
  • cnoadau a phigiadau (gan gynnwys cnoadau dynol) 
  • clwyf heintiedig
  • mân anafiadau pen
  • problemau llygaid fel crafiadau neu rywbeth yn sownd yn y llygad.

Oriau Agor - dydd Llun i ddydd Gwener 9.00am - 3.30pm. 

Sylwch fod yr Uned ar gau bob dydd Sadwrn a dydd Sul.

Yr Uned Mân Anafiadau (BMIU)
Ysbyty'r Barri
Colcot Road
Y Barri
CF62 8YH

Dilynwch ni