Neidio i'r prif gynnwy

Gwyliadwriaeth Iechyd

Beth yw gwyliadwriaeth iechyd?

Gwyliadwriaeth iechyd yw unrhyw weithgaredd sy'n cynnwys cael gwybodaeth am iechyd gweithwyr ac sy'n helpu i amddiffyn gweithwyr rhag peryglon iechyd yn y gwaith.

Yr amcanion ar gyfer gwyliadwriaeth iechyd yw:

  • Amddiffyn iechyd gweithwyr trwy ganfod newidiadau neu afiechyd niweidiol yn gynnar;
  • Casglu data ar gyfer canfod neu werthuso peryglon iechyd;
  • Gwerthuso mesurau rheoli..

Ni ddylid ei gymysgu â sgrinio iechyd cyffredinol neu hybu iechyd.

Mae gwyliadwriaeth iechyd yn angenrheidiol:

Mae gwyliadwriaeth iechyd yn broses; gall fod yn asesiad cynlluniedig rheolaidd o un neu fwy o agweddau ar iechyd gweithiwr, er enghraifft: profi swyddogaeth yr ysgyfaint. Gwneir gwyliadwriaeth iechyd gan y Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol ar gyfer unigolion ar gais eu rheolwr yn dilyn asesiad risg COSHH yn unol â Gweithdrefn Rheoli Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd.

Mae'r diagram hierarchaeth rheolaeth yn dangos pa gamau y dylid eu cymryd gyntaf:

Occ Health Hierarchy

Dilynwch ni