Fel rhan o ymrwymiad parhaus BIP Caerdydd a’r Fro i roi diwedd ar wahaniaethu iechyd meddwl yn y gweithle gydag Amser i Newid Cymru, mae Sue Thomas, Pennaeth Dysgu, Addysg a Datblygu, yn rhannu ei phrofiad ei hun ac yn trafod sut y gall ei hadran gefnogi staff.
Meddai Sue: “Mae gen i lawer o brofiad personol gyda phroblemau iechyd meddwl. Er nad wyf i fy hun erioed wedi cael problemau iechyd meddwl, mae aelodau agos o'm teulu wedi byw gydag iselder ysbryd ers blynyddoedd, ac rwyf wedi eu cefnogi.
“Am y rheswm hwn, rwy’n ymwybodol iawn o’r angen i fecanweithiau cadarn fod ar waith i gefnogi’r rheini sydd â salwch meddwl, yn ogystal â’r angen i ni siarad amdano a’i drin mewn ffordd debyg i salwch corfforol.
“Fodd bynnag, gall cefnogi'r rhai rydych chi'n eu caru yn eich bywyd personol a'ch cydweithwyr fod yn brofiad hollol wahanol. Yn aml, mae staff yn daer eisiau helpu a chefnogi eu cydweithwyr sydd â phroblemau iechyd meddwl ond nid ydyn nhw'n gwybod sut i fynd ati i grybwyll y pwnc.
“Dyma lle mae gan BIP Caerdydd a Fro swyddogaeth, fel cyflogwr, i godi ymwybyddiaeth o fater iechyd meddwl yn ogystal â darparu addysg i staff ar yr hyn y gallant ei wneud i gefnogi eu cydweithwyr.
“Mae adran Dysgu, Addysg a Datblygu (LED) BIP yn chwarae rhan ganolog yn yr ymdrech hon, yn enwedig wrth gefnogi rheolwyr llinell i gael sgyrsiau agored a gonest gyda’u staff am eu hiechyd meddwl.
“Fel arweinwyr, mae angen i ni fod ag ymwybyddiaeth ddwys o'n hymddygiad a'n harddulliau rheoli ein hunain a sut y gallant gael effaith ar staff bregus. Yn anffodus, gall ymddygiad ymsefydlu a gwreiddio ac yn aml mae'n anodd ei newid.
“Fodd bynnag, yn ôl Amser i Newid Cymru, mae 9 o bob 10 o bobl â phroblemau iechyd meddwl yn dweud eu bod wedi profi stigma neu wahaniaethu, felly mae’n amlwg bod angen i ni i gyd wneud mwy i fynd i’r afael â hyn. Mae angen ymgorffori newid yn y sefydliad a gellir ei alluogi trwy adrannau fel LED.
“Rwyf am i’r adran allu addysgu staff BIP am sut i siarad am iechyd meddwl mewn ffordd agored ac uniongyrchol yn ogystal â rhoi gwybod iddynt am yr hyn y gall y bwrdd iechyd ei gynnig o ran cefnogaeth broffesiynol.
“Mae gennym, er enghraifft, y Gwasanaeth Llesiant Gweithwyr sy'n cael ei redeg gan gwnselwyr ymroddedig a hynod wybodus. Os yw staff yn teimlo bod angen cefnogaeth arnynt ond nad ydynt yn teimlo y gallant siarad â'u cydweithwyr agosaf neu reolwyr llinell, gall fod yn anodd gwybod at bwy y dylent droi.
“Mae'r Gwasanaeth Llesiant Gweithwyr yma ar gyfer yr aelodau staff hynny. Gallant atgyfeirio eu hunain heb unrhyw fewnbwn gan eu rheolwr llinell ac mae popeth a drafodir yn parhau i fod yn gwbl gyfrinachol ac ni fyddant yn ffurfio unrhyw ran o'u ffeil Iechyd Personol, Meddygol na Galwedigaethol.
“Yn LED, ein cyfrifoldeb ni yw arfogi staff â chymaint o wybodaeth â phosibl am iechyd meddwl a'r gefnogaeth sydd ar gael: dim ond wedyn y byddwn yn gallu dechrau dylanwadu ar newid o ran problemau iechyd meddwl. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r grŵp Amser i Newid i ddod â gwahaniaethu iechyd meddwl i ben ar draws BIP Caerdydd a'r Fro.”