Ar ôl ennill y Wobr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Hawliau Dynol yng Ngwobrau Cydnabod Staff BIP Caerdydd a'r Fro, mae Adele Watkins, Nyrs Arbenigol Clinigol Iechyd Meddwl yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru, yn rhannu ei stori a'r gwaith y mae wedi'i wneud i helpu ei chleifion a chydweithwyr sydd â phroblemau iechyd meddwl.
Meddai Adele: “Llofnododd Ysbyty’r Plant yr addewid ym mis Hydref y llynedd ar ein Diwrnod Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl cyntaf un. Roedd ein haddewid yn rhan o Raglen Pobl Ifanc Amser i Newid Cymru a ni oedd y sefydliad iechyd cyntaf i lofnodi un.
“Er bod ein gwaith yn canolbwyntio’n bennaf ar blant a phobl ifanc fel ein cleifion, rydym hefyd yn gweithio i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o broblemau iechyd meddwl ymhlith staff. Ni fyddai’n ymarferol mynd i’r afael ag un heb y llall, ac oherwydd y bydd oddeutu un o bob pedwar ohonom yn profi problem iechyd meddwl ar ryw adeg yn ein bywydau, mae mor bwysig lleihau gwahaniaethu a stigma iechyd meddwl yn gyffredinol.
“Ar ôl i ni lofnodi’r addewid, cefais wahoddiad i ddod yn rhan o’r Rhwydwaith Amser i Newid Cymru ac rwyf wedi derbyn hyfforddiant mewn llesiant gweithwyr lle gwnaethom edrych ar y gost i’r GIG o absenoldebau staff oherwydd problemau iechyd meddwl.
“Rydyn ni hefyd wedi cael ychydig o Hyrwyddwyr Amser i Newid yn dod i mewn i’r ysbyty i siarad â ni. Pobl ifanc oedd y rhain sy'n gweithio gydag Amser i Newid sydd i gyd wedi bod trwy'r gwasanaethau iechyd meddwl yn ystod eu harddegau. Roedd yn fraint eu clywed yn rhannu eu profiadau, roeddent mor deimladwy a gwnaethant greu argraff ddofn arnaf o'r angen sydd yn bodoli am yr hyn yr ydym wedi ymrwymo i'w wneud.
“Ers dechrau yn y rôl hon, rwyf wedi sefydlu rhaglen hyfforddi ar gyfer fy nghydweithwyr. Rwy'n ei alw'n Flwch Offer Iechyd Meddwl oherwydd ei fod yn rhoi'r offer a'r sgiliau sydd eu hangen ar staff i gael sgyrsiau ystyrlon am iechyd meddwl â'u cleifion a chyda'i gilydd, yn ogystal â lle gallant gyfeirio pobl am gymorth pellach.
“Nid wyf yn gynghorydd hyfforddedig, ond byddaf yn eistedd ac yn gwrando ar unrhyw un sydd angen i mi wneud hynny. Yn aml, mae angen i bobl gael cyfle i rannu eu profiadau. Rwyf hefyd yn gallu cyfeirio pobl i leoedd fel y Gwasanaeth Llesiant Gweithwyr i gael cymorth pellach.
“Cawsom ddiwrnod Te a Sgwrs yn ddiweddar ar gyfer staff yn yr ysbyty plant lle gwnaethom annog cydweithwyr i gymryd hoe o’u gweithfan a dod am baned, darn o gacen, a sgwrs am iechyd meddwl neu sut maen nhw cael ymlaen. Ar y dechrau, ni ddaeth neb yno, ac roeddwn yn poeni ychydig ei bod yn mynd i fod yn dawel, ond wrth i'r gair ledu, dechreuodd mwy a mwy o bobl ddod.
“Pan fydd ganddyn nhw'r gallu i gymryd seibiant byr, mae mor bwysig i lesiant meddyliol fod pobl yn gwneud hynny. Roedd yn ddiwrnod llwyddiannus iawn a gobeithiwn gynnal un eto yn fuan. Byddai'n wych gweld rhywbeth tebyg yn cael ei gyflwyno ar draws y bwrdd iechyd.
“Ar y wardiau, rydyn ni bob amser yn cymryd rhan mewn amryw o ymgyrchoedd ymwybyddiaeth a digwyddiadau fel Wythnos Iechyd Meddwl Plant, Diwrnod Amser i Siarad, ac Wythnos Ymwybyddiaeth o Anhwylderau Bwyta. Mae gennym grŵp Facebook caeedig ar gyfer staff yr wyf yn ei ddefnyddio'n rheolaidd i rannu digwyddiadau sydd ar y gweill fel bod pawb bob amser yn gwybod beth sy'n digwydd.
“Peth arall y byddwn ni’n ei ddechrau cyn bo hir yw ‘Fine-Free Friday’; sef, bob dydd Gwener byddwn yn annog pawb ar y wardiau, staff a chleifion, i beidio â dweud 'fine' pan ofynnir iddynt sut mae nhw. Trwy fod yn onest ynglŷn â sut maen nhw'n ymdopi a pheidio â rhoi'r gorau i'r sgwrs yn y fan a'r lle, rydyn ni'n gobeithio y bydd mwy o bobl yn cael mwy o'r sgyrsiau hyn yn amlach, a fydd yn helpu i chwalu'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag siarad am eu hiechyd meddwl.
“Fy uchelgais yw datblygu nyrsys sydd ag angerdd am iechyd meddwl a chael o leiaf un ym mhob ward yn Ysbyty’r Plant. Yn y dyfodol, byddai'n wych pe gallem ddatblygu ystafell bwrpasol ar gyfer ein cleifion â phroblemau iechyd meddwl, oherwydd gallwn weld bod y galw am y gwasanaeth hwn yn sylweddol ac yn cynyddu.
“Er fy mod i'n gwybod bod cymaint o waith i'w wneud yn y maes hwn, roedd hi'n braf cael fy nghydnabod am yr hyn rydw i eisoes wedi'i gyflawni yn y Gwobrau Cydnabod Staff a thrwy gael fy enwi'n Nyrs y Flwyddyn Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu yng Nghymru gan y Coleg Nyrsio Brenhinol.
“Yn ddiweddar, rydym wedi cyflwyno ein gwaith i Gynhadledd Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant ac wedi cael gwahoddiad i draddodi araith ar wella'r gwasanaethau rhwng iechyd ac iechyd meddwl yn Ysbyty Plant Cymru yng Nghyngres y Coleg Nyrsio Brenhinol ym mis Mai. Rwy'n credu bod hyn yn dangos yr angen yn bodoli ledled y wlad ar hyn o bryd am ofal iechyd meddwl ac rwyf yn teimlo'n wylaidd iawn cael bod yn rhan o'r broses hon.
“Rwyf wrth fy modd bod y Bwrdd Iechyd wedi llofnodi a'i fod yn adnewyddu ei addewid Amser i Newid. Mae'n hanfodol bod staff yn cael eu gwneud yn fwy ymwybodol o broblemau iechyd meddwl ac yn cael y gefnogaeth gywir i siarad am y pwnc hwn â'u cydweithwyr, yn enwedig os mai nhw eu hunain yw'r rhai sy'n profi'r problemau. Mae'n amlwg bod gennym ni fel sefydliad ddyletswydd gofal nid yn unig i'n cleifion ond i'n gilydd fel cydweithwyr hefyd.”