Neidio i'r prif gynnwy

Mae'n hanfodol bod eich iechyd ac iechyd ein cleifion a'n defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu hamddiffyn trwy sicrhau bod eich statws imiwnedd yn gyfredol.

Mae imiwneiddio gweithwyr gofal iechyd a labordy yn helpu i:

  • Amddiffyn yr unigolyn a'i deulu rhag haint a gafwyd yn alwedigaethol
  • Amddiffyn cleifion a defnyddwyr gwasanaeth, gan gynnwys cleifion agored i niwed nad ydynt efallai'n ymateb yn dda i'w himiwneiddio eu hunai
  • Amddiffyn staff gofal iechyd a labordy eraill
  • Caniatáu ar gyfer rhedeg gwasanaethau yn effeithlon heb darfu.

O dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith (HSWA) 1974, mae gan gyflogwyr, gweithwyr a'r hunangyflogedig:

ddyletswyddau penodol i amddiffyn, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, y rhai yn y gwaith ac eraill a allai gael eu heffeithio gan eu gweithgaredd gwaith, fel contractwyr, ymwelwyr a chleifion. Yn ganolog i ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch mae'r angen i gyflogwyr asesu'r risgiau i staff ac eraill”

Gwneir y rhain fel rhan o'r gwiriad cyn-cyflogi ar gyfer staff newydd. Os ydych yn ansicr o'ch statws imiwneiddio gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol i ofyn am adolygiad imiwneiddio ar unrhyw adeg yn ystod eich cyflogaeth.

Ceisiadau Hanes Imiwneiddio

Os ydych angen copi o'ch hanes imiwneiddio gan y Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol, e-bostiwch eich cais at Iechyd Galwedigaethol (occupational.health3@wales.nhs.uk), gan gynnwys y wybodaeth ganlynol:

- Eich Enw Llawn

- Eich dyddiad geni

- Cyfeiriad cartref cyfredol

- Rhif Cyswllt


Ein nod yw ateb eich cais o fewn 10 diwrnod gwaith.

I gael mwy o wybodaeth am frechiadau dilynwch y dolenni isod:

Hepatitis B_https://www.nhs.uk/conditions/vaccinations/hepatitis-b-vaccine/

Varicella (Brech yr Ieir)_https://www.nhs.uk/conditions/vaccinations/chickenpox-vaccine/

MMR (Y Frech Goch, Clwy'r Pennau a Rwbela)_https://www.nhs.uk/conditions/vaccinations/mmr-vaccine/

Mae mwy o wybodaeth hefyd ar gael ar dudalen imiwneiddio rhyngrwyd BIP.

 

Dilynwch ni