Rydym am sicrhau ein bod yn datblygu a meithrin staff sy'n uchel eu cymhelliant a'u diddordeb, sydd â'r sgiliau i ddilyn ein gwerthoedd bob dydd. Mae gwerthuso yn bwysig i'r staff ac i'r sefydliad ac fe gynlluniwyd y Gwerthusiad Seiliedig ar Werthoedd (y Gwerthusiad) newydd i gefnogi ac annog staff i gyflawni hyd eithaf eu gallu.
Mae Gwerthusiad Seiliedig ar Werthoedd i bawb ac mae'n sgwrs sy'n canolbwyntio ar ddatblygiad a chanlyniadau y gellir eu cofnodi i staff. Dylai eich gwerthusiad ymdrin â'r datblygiad sydd ei angen arnoch, y gwerth a gyfrannwch, a'r swydd(i) sy'n fwyaf addas i'ch sgiliau heddiw ac yn y dyfodol.
"Tystiolaeth o ymchwil sy'n cysylltu marwolaethau cleifion ag arferion AD allweddol: Gwerthuso sydd â'r cysylltiad cryfaf â marwoldeb cleifion cyffredinol
Mae ysbyty sy'n hyfforddi tuag 20% yn fwy o werthuswyr ac sy'n gwerthuso tuag 20% yn fwy o staff yn debygol o gael 1,090 llai o farwolaethau i bob 100,000 o gleifion a dderbynnir."
Ffynhonnell: Effective Human Resource Management & Lower Patient Mortality, Carol Borrill a Michael West, Prifysgol Aston
Dylai'r holl staff sy'n cynnal gwerthusiadau gael hyfforddiant ar y cyfle cyntaf. Bydd angen i'r rhan fwyaf o staff gael hanner diwrnod o sesiwn hyfforddi i ddiweddaru eu sgiliau. Os ydych yn rheolwr newydd, yn amhrofiadol yn cynnal gwerthusiadau neu os hoffech adnewyddu eich sgiliau, efallai byddai'n well gennych ddod i'r sesiynau diwrnod llawn sydd hefyd ar gael.