Mae'n ofynnol i'r holl Staff Meddygol a Deintyddol yn BIP Caerdydd a Fro gymryd rhan mewn arfarniad blynyddol yn unol â pholisi Arfarniad Meddygol Cymru Gyfan.
Cytunwyd ar draws GIG Cymru mai System Arfarniad ac Ailddilysu Meddygol (MARS) yw'r unig lwybr i arfarniad blynyddol ar gyfer staff Meddygol a Deintyddol. Os nad ydych wedi cofrestru ac wedi dechrau gweithio i BIP Caerdydd a'r Fro yn ddiweddar, gallwch gofrestru trwy'r ddolen uchod.
O 3 Rhagfyr 2012, mae'n ofynnol i'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) ailddilysu pob meddyg trwyddedig, ble bynnag y maent yn gweithio, bob 5 mlynedd. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan y GMC.
Fel y Swyddog Cyfrifol ar gyfer BIP Caerdydd a'r Fro, mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i Dr Stuart Walker (y Cyfarwyddwr Meddygol) wneud argymhellion i'r GMC ynghylch a yw meddygon unigol sydd â chysylltiad rhagnodedig â'r Bwrdd Iechyd wedi dangos eu ffitrwydd parhaus i ymarfer, ac o'r herwydd y gellir eu hailddilysu. Bydd yr argymhellion hyn yn seiliedig ar dystiolaeth bod meddygon wedi cael arfarniad blynyddol sy'n cwrdd â'r safonau a nodwyd gan y GMC.
(Sylwch mai'r Deon Ôl-raddedig yw'r Swyddog Cyfrifol ar gyfer meddygon iau mewn swyddi hyfforddi ôl-raddedig).
Gall y Swyddog Cyfrifol wneud tri argymhelliad:
Ailddilysu
Gwneir yr argymhelliad hwn ar gyfer meddygon sydd wedi cwrdd â'r meini prawf ailddilysu trwy ddarparu tystiolaeth eu bod yn ffit ac yn ddiogel i ymarfer meddygaeth. Os cymeradwyir yr argymhelliad gan y GMC, rhoddir dyddiad ailddilysu newydd am 5 mlynedd.
Gellir gohirio os oes rheswm priodol pam nad yw meddyg wedi gallu cydymffurfio â'r broses arfarnu/ ailddilysu. Mae'r argymhelliad hwn yn caniatáu amser pellach i'r meddyg gwblhau'r wybodaeth ofynnol - yr isafswm cyfnod gohirio yw 4 mis a'r uchafswm yw 12 mis.
Gwneir yr argymhelliad hwn os nad yw meddyg wedi cwrdd â'r meini prawf ac wedi dangos diffyg ymgysylltiad yn y broses arfarniad neu ailddilysu. Gall yr argymhelliad hwn roi Trwydded Meddyg i Ymarfer Meddygaeth mewn perygl.
Felly mae'n hanfodol, os ydych chi'n feddyg sy'n gweithio yn y BIP (gan gynnwys deiliaid contract anrhydeddus) a bod gennych gysylltiad rhagnodedig â'r BIP, eich bod yn paratoi ar gyfer ailddilysu trwy sicrhau eich bod yn cael eich arfarnu'n flynyddol a chynllunio datblygiad personol.
Fel rhan o'r broses Ailddilysu, mae'r GMC yn ei gwneud yn ofynnol i bob meddyg unwaith ym mhob cylch Ailddilysu 5 mlynedd ofyn am adborth gan gydweithwyr a chleifion ac adolygu a gweithredu ar yr adborth hwnnw, fel sy'n briodol. Mae Llywodraeth Cymru ar ran Byrddau Iechyd Cymru wedi caffael system adborth aml-ffynhonnell (MSF) i gleifion a chydweithwyr ar gyfer Cymru ac mae'r BI'au wedi cytuno i ariannu'r system ar gyfer holl feddygon y GIG yng Nghymru.
Dewiswyd Orbit 360 Clinical, darparwr masnachol, i ddarparu'r system ar gyfer y cylch ailddilysu cyntaf. Os oes gennych adborth cydweithwyr a/neu gleifion eisoes sy'n cwrdd â gofynion GMC, nid oes gorfodaeth i gynnal ymarfer ychwanegol.
Er mwyn cwrdd â gofynion ailddilysu, rhaid mynd â'r adborth i arfarniad. Os dychwelir eich adroddiad adborth i chi ar ôl yr arfarniad diwethaf cyn eich dyddiad Ailddilysu, yna mae'n rhaid i chi lenwi'r Ffurflen Dilysu MSF gyda'ch SMC a'i dychwelyd i'r Tîm Arfarnu ac Ailddilysu.
Gallwch gymryd rhan mewn MSF ar unrhyw adeg yn y cylch Ailddilysu 5 mlynedd ac os nad ydych eto wedi derbyn gwahoddiad gan Orbit 360 Clinical yn dymuno cymryd rhan mewn MSF, cysylltwch â'r Tîm Arfarnu ac Ailddilysu.
Weithiau cyfeirir at yr SMC fel hwylusydd, a bydd yn gydweithiwr sy'n eich adnabod ac sy'n barod i'ch cefnogi trwy'r broses, h.y. arfarnwr, mentor, ac ati. Eu rôl yw cymeradwyo'r cydweithwyr sy'n eich graddio, ac i drafod yr adborth gyda chi gan gynnwys darparu persbectif ac annog myfyrio. Ni ddylai'r SMC fod yn perthyn i chi, ond gall fod yn rhywun arall rydych chi'n gweithio'n agos ag ef/hi.
Peidiwch ag anghofio anfon e-bost gyda manylion eich SMC i Orbit 360 Clinical. Ni fydd eich adroddiad yn cael ei ryddhau heb SMC, a bydd yn gohirio'r broses.
Am ymholiadau ynghylch Arfarnu neu Ailddilysu, cysylltwch ag aelod o'r Tîm Arfarnu ac Ailddilysu neu anfonwch unrhyw ymholiadau cyffredinol at: CAV.Revalidation@wales.nhs.uk
Mr Richard Skone - Cyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol (Gweithlu Meddygol) ac Arweinydd Ailddilysu
Tîm Ailddilysu Caerdydd a'r Fro
029 21843134 (Opsiwn 2)