Bydd eich hawl i wyliau blynyddol ar yr un lefel â staff eraill sy'n ymuno â'r GIG. Byddwch yn dechrau ar 28 diwrnod y flwyddyn yn seiliedig ar rôl amser llawn (37.5 awr yr wythnos). Os yw rôl yn rhan amser, bydd hyn yn cael ei leihau yn dibynnu ar yr oriau y mae gennych gontract i'w gweithio. Yn ogystal, bydd gennych hawl hefyd i 8 gŵyl banc. Mae cymryd eich hawl i wyliau blynyddol yn allweddol er mwyn sicrhau cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith a bydd angen i chi drefnu hynny gyda'ch rheolwr llinell ar adegau sy’n gyfleus i chi a nhw.