Neidio i'r prif gynnwy

Prentisiaethau - Cyfleusterau

Prentisiaeth Sylfaen mewn Iechyd Lefel 2 (Gwasanaethau Cymorth Gofal Iechyd)  Cymraeg
 

Bydd y rhaglen hon yn arwain ac yn asesu datblygiad gwybodaeth a sgiliau'r rhai a gyflogir mewn rolau gwasanaethau cymorth yn y sector iechyd, er enghraifft:

  • Cynorthwyydd gweinyddol
  • Cynorthwyydd cegin
  • Clerc cofnodion iechyd
  • Gwasanaethau diogelwch
  • Porthor ysbyty
  • Cynorthwyydd rheoli stoc

Ar ôl cwblhau'r fframwaith prentisiaeth hwn, bydd yr ymgeisydd yn derbyn y cymwysterau/ tystysgrifau canlynol:

  • Tystysgrif Lefel 2 City & Guilds mewn Gwasanaethau Cymorth Gofal Iechyd
  • Cymhwyso Hanfodol Sgiliau Rhifau Lefel 1 a Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 1
  • Dyfarniad Lefel 2 City & Guilds mewn Cyflogaeth a Sgiliau Dysgu Personol mewn Iechyd (QCF)
  • Prentisiaeth Sylfaen mewn Iechyd (Gwasanaethau Cymorth Gofal Iechyd)

Am wybodaeth bellach cyfeiriwch at y fframwaith llawn.


Prentisiaeth mewn Iechyd Lefel 3 (Gwasanaethau Cymorth Gofal Iechyd)  Cymraeg
Bydd y rhaglen hon yn arwain ac yn asesu datblygiad gwybodaeth a sgiliau'r rhai a gyflogir mewn rolau gwasanaethau cymorth clinigol yn y sector iechyd, er enghraifft:

  • Cynorthwyydd gweinyddol
  • Cynorthwyydd cegin
  • Clerc cofnodion iechyd
  • Gwasanaethau diogelwch
  • Porthor ysbyty
  • Cynorthwyydd rheoli stoc

Ar ôl cwblhau'r fframwaith prentisiaeth hwn, bydd yr ymgeisydd yn derbyn y cymwysterau/ tystysgrifau canlynol:

  • Diploma Lefel 3 City & Guilds mewn Cymorth Gofal Iechyd Clinigol
  • Cymhwyso Hanfodol Sgiliau Rhifau Lefel 2 a Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 2
  • Dyfarniad Lefel 3 City & Guilds mewn Sgiliau Cyflogaeth a Dysgu Personol mewn Iechyd (QCF)
  • Prentisiaeth mewn Iechyd (Cymorth Gofal Iechyd Clinigol)

Am wybodaeth bellach cyfeiriwch at y fframwaith llawn.

 

 

Dilynwch ni