Adolygu'r swydd gyfredol neu'r gofyniad newydd, yn enwedig y Disgrifiad Swydd a'r Fanyleb Person a elwir hefyd yn DS/MP Cymraeg/Welsh DS a MP Saesneg/English JD & PS Bydd y cwestiynau canlynol yn eich helpu i ddilyn y llwybr cywir: A ydy hwn yn gyfnewidiad union am ddeiliad blaenorol y swydd heb unrhyw newidiadau i'r DS/MP? |
Swyddi newydd a swyddi sydd wedi newid / Cymysgedd sgiliau / Ailgynllunio rôl Os nad yw'r swydd gyfredol yn bodloni gofynion y gwasanaeth rhagor, neu os oes angen gwneud newidiadau / gwelliannau i'r DS/MP (defnyddiwch y templedi DS a MP diweddaraf neu bydd eich rôl yn cael ei dychwelyd) neu os yw hon yn swydd gwbl newydd, bydd angen i'r rheolwr sy'n penodi drafod y newidiadau gyda chynrychiolydd y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol. [Os byddwch yn gwneud unrhyw newidiadau i DS/MP, sylwch y bydd angen ichi 'Olrhain Newidiadau' ar bob cyflwyniad neu bydd eich DS/MP yn cael ei ddychwelyd]. - Os cewch eich cynghori gan adran y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol fod y newidiadau'n rhai mân ac na fyddant yn arwain at newid gradd, symudwch ymlaen i Gam 4. - Os yw'r newidiadau'n sylweddol ac yn gwarantu adolygu gradd, bydd adran y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol yn cynghori y bydd angen adolygu'r swydd mewn panel Paru Swyddi Agenda ar gyfer Newid. Pan gaiff ei chadarnhau, gall y rheolwr sy'n penodi symud ymlaen i gam 3. - Os yw hon yn swydd newydd, cyfeiriwch at y Protocol Swyddi Newydd a Swyddi sydd wedi Newid. |
Trafod dros dro argaeledd cyllid gyda'ch Cyfrifydd Ariannol: Os nad felly, cofiwch gael cytundeb dros dro gyda'ch cyfrifydd ariannol ar fforddiadwyedd cyn bwrw ymlaen.
|
Diwygio terminoleg sydd wedi dyddio yn y DS/MP Mae'r ymadroddion canlynol yn cael eu canfod o hyd mewn hysbysebion, disgrifiadau swydd a manylebau person - mae rhai geiriau amgen wedi'u darparu: Hyblyg - newidiwch i 'Agwedd hyblyg at waith' neu 'Dull hyblyg i fodloni anghenion y gwasanaeth' Perchennog car yn hanfodol - newidiwch i 'Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn pryd i fodloni anghenion y gwasanaeth' 'X' blwyddyn o brofiad - dilëwch nifer y blynyddoedd. Ychwanegwch brofiad 'sylweddol' os oes angen Yn gorfforol ffit - rhaid nodi'r union ofynion, e.e. 'Angen ymestyn a phlygu i godi eitemau o'r llawr ac oddi ar silffoedd' Cofnod gwaith dibynadwy - dilëwch o'r DS/MP Diddordebau allanol - dilëwch o'r DS/MP Dylai rheolwyr gyfeirio at Adnoddau Dynol am gyngor os oes unrhyw amheuaeth ynghylch y geiriad mewn unrhyw ddogfennaeth. |
Rhif Swydd ESR Os yw'r swydd hon yn gyfnewidiad union – bydd pob deiliad cyllideb yn gallu cael at restr Sefydliad o Staff Adrannol mewn Swydd sy'n cynnwys y rhifau swydd ESR. Gellir cael yr wybodaeth hon hefyd drwy Share Point neu drwy gysylltu â Gwybodaeth y Gweithlu ar 029 2074 1205 (4-1205). |
Rhestr wirio dogfennaeth Cyn ichi fwrw ymlaen, adolygwch eich rhestr wirio i sicrhau y gallwch ateb y cwestiynau canlynol yn gadarnhaol:.
Os ydych wedi ateb ‘Oes’ neu 'Ydw' i'r holl gwestiynau yng Ngham 6 a'ch bod wedi llenwi'r adran gyntaf ar frig y ffurflen Iechyd Galwedigaethol i adlewyrchu'r swydd - symudwch ymlaen i is-dudalen Creu cais am swydd wag. |