Mae gan yr holl staff ddyletswydd gofal i sicrhau eu bod yn gyfoes â hyfforddiant gorfodol.
Mae'r weithdrefn Hyfforddiant Gorfodol/Statudol yn amlinellu sancsiynau am beidio â chydymffurfio.
I unigolion, gall hyn olygu na fydd cynnydd/cam cyflog yn cael ei gymhwyso neu efallai na fyddant yn gallu cael gafael ar gronfeydd hyfforddi ar gyfer eu datblygiad personol neu fynd i ddigwyddiadau hyfforddi anorfodol eraill, h.y. rhaglenni arweinyddiaeth a rheoli.
I reolwyr, mae sancsiynau tebyg yn berthnasol os nad yw'r staff yn cwblhau hyfforddiant.
Rhaid rhoi cyfle i'r holl staff, gan gynnwys y rhai sy'n gweithio'n rhan-amser neu ar sifftiau, fynychu/cwblhau Hyfforddiant Gorfodol o fewn oriau gwaith, neu gael yr amser sy'n ddyledus iddynt, neu gael oriau â thâl.