Rydym yn ffodus iawn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i gael dwy feithrinfa gofal dydd yn y gweithle.
Un feithrinfa hyd at 60 lle yn Ysbyty Athrofaol Cymru a meithrinfa hyd at 30 lle ar safle Ysbyty Athrofaol Llandochau. Mae’r ddwy feithrinfa’n gofalu am blant rhwng 3 mis a 5 oed ac maent ar agor rhwng 8:00am (neu 7:00am am gost ychwanegol) a 6:00pm.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler poster Meithrinfa Tedi Bêr neu cysylltwch â:
Mae Meithrinfeydd Tedi Bêr bellach ar agor i bawb, ac nid oes rhaid i chi gael eich cyflogi gan y BIP i wneud cais am le.
Llythyr eglurhaol ffurflen gais rhestr aros
Ffurflen Gais Rhestr Aros - YALl
Ffurflen Gais Rhestr Aros - YAC
Prosbectws Meithrin – Hydref 2024
Rhestr Brisiau Meithrinfa Tedi Bêr
Y dewisiadau sydd gan rieni o ran ariannu eu trefniadau gofal plant yw Gofal Plant Di-dreth, Credyd Cynhwysol a Lleoedd Gofal Plant a Ariennir. Bydd gwefan Cyllid a Thollau EF yn helpu pob rhiant i wneud penderfyniad gwybodus ar yr opsiynau sydd ar gael iddynt.
Mae hyn yn cyfateb i’r dreth y mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei thalu - 20% - sy’n rhoi ei enw i’r cynllun, ‘di-dreth’. Bydd y Llywodraeth yn ychwanegu at y cyfrif gydag 20% o gostau gofal plant hyd at gyfanswm o £10,000 - sy’n cyfateb i gymorth o hyd at £2,000 y plentyn y flwyddyn (neu £4,000 i blant ag anghenion ychwanegol). Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Gov.UK.
Mae Llywodraeth Cymru eisiau i’w chynnig gofal plant fod mor glir a hawdd ei chyrchu â phosibl fel y gall rhieni plant 3 a 4 oed barhau i ddewis y darparwyr sy’n gweddu orau i’w hanghenion. Bydd rhieni yn derbyn cyfanswm cyfunol o 17.5 awr o addysg gynnar a gofal plant yn ystod y tymor.
Bydd yr addysg gynnar am ddim, gyfredol a ddarperir gan y Cwricwlwm i Gymru yn rhan o’r cynnig hwn. Am 9 wythnos o’r flwyddyn, y tu allan i’r tymor ysgol, bydd rhieni’n derbyn 30 awr yr wythnos o ofal plant. Ni fydd y 4 wythnos sy’n weddill yn cael eu hariannu; yn Tedi Bêr mae hyn yn cyfateb i fis Awst.
I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r dewisiadau ariannu, cysylltwch â Suzanne Toft, Uwch Reolwr Gofal Plant y BIP, drwy e-bostio Suzanne.Toft@wales.nhs.uk neu ffonio YALl est. 26884 neu 02921 826884.
***Mae Cynllun Talebau Gofal Plant Edenred bellach ar gau i ddefnyddwyr BIP newydd***