Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, rydym yn falch iawn o fod yn lle gwych i hyfforddi, byw a gweithio, ac mae cynhwysiant, lles a datblygu wrth wraidd popeth a wnawn. Fel tîm, ein prif bwrpas yw gwella profiad ein staff fel y gallant ddarparu iechyd a gofal i'r lefel uchaf posibl.
Y Cynllun Pobl a Diwylliant yw'r map ffordd a fydd yn ein helpu i gyflawni hyn, nawr ac yn y dyfodol. Drwy gyflawni'r Cynllun bydd gennym bobl sydd â'r sgiliau iawn, y nifer iawn ohonynt, yn y lle iawn; a thrwy hynny yn lleihau dyblygu a gwastraff ac yn osgoi niwed lle bynnag y bo modd. Rydym am i'n gweithlu fod yn hapus, yn iach ac wedi’u cefnogi, fel eu bod nhw, yn eu tro, yn cefnogi lles y bobl sydd yn eu gofal.
Mae pob un o'r timau o fewn Pobl a Diwylliant yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni'r uchelgais hon. Cliciwch ar y dolenni i gael mwy o wybodaeth am yr hyn rydym yn ei wneud a sut i gysylltu â ni:
Uwch Dîm:
Rachel Gidman - Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl a Diwylliant
Lianne Morse - Dirprwy Gyfarwyddwr Pobl a Diwylliant
Claire Whiles - Cyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygu Sefydliadol, Lles a Diwylliant
Jonathan Pritchard - Cyfarwyddwr Cynorthwyol Adnoddau Pobl
Rydym yn gweithio'n agos gyda'n cydweithwyr yn yr Undebau Llafur. I gael gwybod mwy am fod mewn undeb a'r hyn y maent yn ei wneud, cysylltwch â Dawn Ward, Cadeirydd Cynrychiolwyr Staff, neu dilynwch y ddolen i'r dudalen Undebau Llafur.