Neidio i'r prif gynnwy

Llawdriniaeth

Mae ein gwasanaeth ENT yn gyfrifol am ymchwilio, rhoi diagnosis a thrin anhwylderau a diffygion y clustiau, y trwyn (gan gynnwys sinysau), llwnc, pen a gwddf.

Statws Cyfredol y Gwasanaeth:

  • Mae’r gwasanaeth yn rhedeg ar gapasiti llai er mwyn caniatáu i fesurau COVID-19 cyfredol gael eu dilyn.
  • Mae rhestr aros wedi’i sefydlu ar gyfer triniaethau ac mae llawdriniaeth ar gyfer cleifion rheolaidd â chyflyrau anfalaen yn cael ei gohirio ar hyn o bryd oherwydd bod llai o gapasiti yn y gwasanaeth.
  • Ar gyfer triniaethau sy’n gofyn am ymgynghoriadau arbenigol, mae amseroedd aros hwy oherwydd effaith mesurau cadw pellter cymdeithasol ar gapasiti.
  • Cynigir cymysgedd o apwyntiadau wyneb yn wyneb, rhithwir a/neu dros y ffôn i gleifion. Mae’r gwasanaeth hefyd yn defnyddio’r ap Consultant Connect i frysbennu cleifion yn rhithwir.

I gysylltu â’r tîm ENT, ffoniwch 02921 844605 rhwng 9am a 4pm.

Newidiadau allweddol i wasanaethau mewn ymateb i COVID-19:

Mae’r Bwrdd Iechyd yn gweithio mewn partneriaeth ag Ysbyty Sant Joseff i ganiatáu i fwy o gleifion gael eu gweld, felly efallai y cewch eich gwahodd i fynychu eich apwyntiad yn Ysbyty Sant Joseff, Casnewydd. Darllenwch eich llythyr apwyntiad yn ofalus cyn mynychu.

Diweddarwyd ddiwethaf 06/09/23

Mae ein gwasanaethau Offthalmoleg yn rhoi diagnosis, yn trin ac atal anhwylderau'r llygaid a'r system weledol, gan ddefnyddio sgiliau meddygol a llawfeddygol.

Statws Cyfredol y Gwasanaeth:

  • Mae’r holl wasanaethau yn rhedeg ar hyn o bryd ac nid oes unrhyw wasanaethau wedi’u hatal.
  • Mae'r gwasanaeth Offthalmoleg yn gweithredu ar gapasiti o 90% i allu dilyn mesurau COVID-19 a rheoli heintiau cyfredol.
  • Mae'r gwasanaeth yn cynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb yn unig.

Newidiadau allweddol i wasanaethau mewn ymateb i COVID-19:

  • Mae’r gwasanaeth wedi comisiynu dwy theatr symudol newydd ar gyfer triniaeth cataract ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru (YAC). Os ydych yn aros am lawdriniaeth cataract, mae’n debygol y byddwch yn cael eich triniaeth yn un o’r theatrau hyn. Darllenwch eich llythyr apwyntiad yn ofalus cyn mynychu.
  • O fis Ebrill 2022, mae rhagor o wasanaethau glawcoma, dirywiad macwlaidd sy’n gysylltiedig â henaint ac ocwloblastig yn cael eu darparu gan Ysgol Optometreg a Gwasanaethau Golwg Caerdydd.

 

Diweddarwyd ddiwethaf 20/07/22

Statws Cyfredol y Gwasanaeth:

  • Mae’r holl wasanaethau yn rhedeg ar hyn o bryd ac nid oes unrhyw wasanaethau wedi’u hatal.
  • Mae'r gwasanaeth yn cynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb yn unig.
  • Mae cleifion yn cael eu gweld yn nhrefn blaenoriaeth, gyda chleifion brys yn cael blaenoriaeth a chleifion nad ydynt yn rhai brys yn cael eu gweld o fewn amserlen resymol.

I gysylltu â Gwasanaeth y Fron, ffoniwch 02921 825742 rhwng 9am a 5pm.

 

Diweddarwyd ddiwethaf 16/05/22

Statws Cyfredol y Gwasanaeth:

  • Mae’r gwasanaeth yn rhedeg ar gapasiti llai er mwyn caniatáu i fesurau COVID-19 cyfredol gael eu dilyn.
  • Mae’r capasiti ar gyfer cleifion rheolaidd â chyflyrau anfalaen yn cael ei leihau gan fod cleifion yn cael eu blaenoriaethu yn unol â’u blaenoriaeth o safbwynt clinigol.
  • Cynigir cymysgedd o apwyntiadau rhithwir a/neu dros y ffôn i gleifion.

Newidiadau allweddol i wasanaethau mewn ymateb i COVID-19:

Mae'r Bwrdd Iechyd yn gweithio mewn partneriaeth ag Ysbyty Sant Joseff i ganiatáu i fwy o gleifion gael eu gweld, felly efallai y gwahoddir rhai cleifion i fynychu eu hapwyntiad yn Ysbyty Sant Joseff, Casnewydd.

 

Diweddarwyd ddiwethaf 16.05.22

Mae ein tîm gastroberfeddol uchaf yn darparu gwasanaethau llawfeddygol ar gyfer cyflyrau'r oesoffagws, y stumog, y dwodenwm, y pancreas a choden y bustl.

Statws Cyfredol y Gwasanaeth:

  • Mae’r gwasanaeth yn rhedeg ar gapasiti llai er mwyn caniatáu i fesurau COVID-19 cyfredol gael eu dilyn.
  • Mae’r capasiti ar gyfer cleifion rheolaidd â chyflyrau anfalaen yn cael ei leihau gan fod cleifion yn cael eu blaenoriaethu yn unol â’u blaenoriaeth o safbwynt clinigol.
  • Cynigir cymysgedd o apwyntiadau wyneb yn wyneb, rhithwir a/neu dros y ffôn i gleifion. Cynigir apwyntiadau dilynol yn rhithwir yn dibynnu ar angen clinigol y claf.

 

Diweddarwyd ddiwethaf 16.05.22

 

Mae ein gwasanaeth gastroberfeddol isaf yn trin clefydau yn y llwybr gastroberfeddol isaf, yn fwyaf cyffredin yn y coluddyn a'r coluddyn bach.

Statws Cyfredol y Gwasanaeth:

  • Mae’r gwasanaeth yn rhedeg ar gapasiti llai er mwyn caniatáu i fesurau COVID-19 cyfredol gael eu dilyn.
  • Mae’r capasiti ar gyfer cleifion rheolaidd â chyflyrau anfalaen yn cael ei leihau gan fod cleifion yn cael eu blaenoriaethu yn unol â’u blaenoriaeth o safbwynt clinigol.
  • Cynigir cymysgedd o apwyntiadau wyneb yn wyneb, rhithwir a/neu dros y ffôn i gleifion. Cynigir apwyntiadau dilynol yn rhithwir yn dibynnu ar angen clinigol y claf.

Newidiadau allweddol i wasanaethau mewn ymateb i COVID-19:

Mae canolfan gymunedol ar gyfer iechyd y pelfis wedi'i sefydlu yn Ysbyty'r Barri i helpu i gynyddu capasiti'r gwasanaeth.

Diweddarwyd ddiwethaf 16.05.22

Mae ein gwasanaeth HPB yn darparu gofal i bobl ag anhwylderau'r afu, y pancreas, system y bustl a choden y bustl.

Statws Cyfredol y Gwasanaeth:

  • Mae’r gwasanaeth yn rhedeg ar gapasiti llai er mwyn caniatáu i fesurau COVID-19 cyfredol gael eu dilyn.
  • Mae’r capasiti ar gyfer cleifion rheolaidd â chyflyrau anfalaen yn cael ei leihau gan fod cleifion yn cael eu blaenoriaethu yn unol â’u blaenoriaeth o safbwynt clinigol.
  • Cynigir cymysgedd o apwyntiadau wyneb yn wyneb, rhithwir a/neu dros y ffôn i gleifion. Cynigir apwyntiadau dilynol yn rhithwir yn dibynnu ar angen clinigol y claf.

Diweddarwyd ddiwethaf 16.05.22

Mae ein gwasanaeth endocrin yn darparu gofal i gleifion ag ystod eang o glefydau sy'n gysylltiedig â hormonau.

Statws Cyfredol y Gwasanaeth:

  • Mae’r gwasanaeth yn rhedeg ar gapasiti llai er mwyn caniatáu i fesurau COVID-19 cyfredol gael eu dilyn.
  • Mae’r capasiti ar gyfer cleifion rheolaidd â chyflyrau anfalaen yn cael ei leihau gan fod cleifion yn cael eu blaenoriaethu yn unol â’u blaenoriaeth o safbwynt clinigol.
  • Mae'r gwasanaeth yn cynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb yn unig.

Diweddarwyd ddiwethaf 16.05.22

Statws Cyfredol y Gwasanaeth:

  • Mae’r gwasanaeth yn rhedeg ar gapasiti llai er mwyn caniatáu i fesurau COVID-19 cyfredol gael eu dilyn.
  • Mae’r capasiti ar gyfer cleifion rheolaidd â chyflyrau anfalaen yn cael ei leihau gan fod cleifion yn cael eu blaenoriaethu yn unol â’u blaenoriaeth o safbwynt clinigol.
  • Cynigir cymysgedd o apwyntiadau wyneb yn wyneb, rhithwir a/neu dros y ffôn i gleifion, yn cynnwys y gwasanaeth ymgynghori fideo Attend Anywhere.

Diweddarwyd ddiwethaf 16.05.22

Dilynwch ni