Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Plant a Menywod

Mae’r gwasanaeth Obstetreg a Gynaecoleg yn darparu gwasanaeth trydyddol (gofal arbenigol) i fenywod ag anghenion arbenigol mewn meddygaeth y ffetws/y fam ac mae’n ganolfan ranbarthol ar gyfer oncoleg. Darperir gwasanaeth bydwreigiaeth cymunedol hefyd mewn rhai clinigau iechyd lleol sy’n cynnig gwasanaethau cynllunio teulu.

Statws Cyfredol y Gwasanaeth:

  • Mae’r holl wasanaethau yn rhedeg ar hyn o bryd ac nid oes unrhyw wasanaethau wedi’u hatal.
  • Mae’r gwasanaeth yn rhedeg ar gapasiti llai er mwyn caniatáu i fesurau COVID-19 cyfredol gael eu dilyn.
  • Cynigir cymysgedd o apwyntiadau wyneb yn wyneb, rhithwir a/neu dros y ffôn i gleifion.

 

Newidiadau allweddol i wasanaethau mewn ymateb i COVID-19:

Mae rhai clinigau cleifion allanol Gynaecoleg (gan gynnwys y Gwasanaeth Cynghori ar Feichiogrwydd) wedi symud i Ysbyty Brenhinol Caerdydd (CRI). Darllenwch eich llythyr apwyntiad yn ofalus cyn mynychu.

Diweddarwyd ddiwethaf: 01/12/22

Mae’r gwasanaeth Obstetreg a Gynaecoleg yn darparu gwasanaeth trydyddol (gofal arbenigol) i fenywod ag anghenion arbenigol mewn meddygaeth y ffetws/y fam ac mae’n ganolfan ranbarthol ar gyfer oncoleg. Darperir gwasanaeth bydwreigiaeth cymunedol hefyd mewn rhai clinigau iechyd lleol sy’n cynnig gwasanaethau cynllunio teulu.

 

Statws Cyfredol y Gwasanaeth:

  • Mae’r rhan fwyaf o wasanaethau yn rhedeg ar gapasiti llawn ar hyn o bryd; fodd bynnag mae ein Bwrdd Iechyd yn parhau i wynebu pwysau eithafol ar draws gwasanaethau sy’n cynnwys mamolaeth.
  • Mae ein huned dan arweiniad bydwragedd ar agor. Mae hyn yn cael ei adolygu’n ddyddiol.
  • Mae gwasanaethau geni gartref wedi’u hatal ar hyn o bryd gyda’r sefyllfa’n cael ei hadolygu’n wythnosol.
  • Cynigir cymysgedd o apwyntiadau wyneb yn wyneb, rhithwir a/neu dros y ffôn i gleifion.

I gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau mamolaeth, cliciwch yma.

Diweddarwyd diwethaf 01/12/22

Dilynwch ni