Mae'r gwasanaeth Niwrolawdriniaeth yn gofalu am gleifion ag anhwylderau'r ymennydd, llinyn asgwrn y cefn, nerfau, penglog a’r asgwrn cefn.
Statws Cyfredol y Gwasanaeth:
- Mae’r holl wasanaethau yn rhedeg ar hyn o bryd ac nid oes unrhyw wasanaethau wedi’u hatal.
- Mae’r gwasanaeth yn rhedeg ar gapasiti llai er mwyn caniatáu i fesurau COVID-19 cyfredol gael eu dilyn.
- Cynigir cymysgedd o apwyntiadau wyneb yn wyneb, rhithwir a/neu dros y ffôn i gleifion.
Newidiadau allweddol i wasanaethau mewn ymateb i COVID-19:
- Cynhelir pob apwyntiad claf allanol naill ai yn Ysbyty Rookwood neu Ysbyty Athrofaol Llandochau (YALl). Darllenwch eich llythyr apwyntiad yn ofalus cyn mynychu.
Diweddarwyd ddiwethaf 16.05.22