Statws Cyfredol y Gwasanaeth:
- Mae’r holl wasanaethau yn rhedeg ar hyn o bryd ac nid oes unrhyw wasanaethau wedi’u hatal.
- Cynigir cymysgedd o apwyntiadau wyneb yn wyneb, rhithwir a/neu dros y ffôn i gleifion.
Newidiadau allweddol i wasanaethau mewn ymateb i COVID-19:
- Mae llawdriniaeth gardiothorasig wedi'i hadleoli i Ysbyty Athrofaol Llandochau (YALl) felly bydd eich llawdriniaeth yn cael ei chynnal yno. Mae’r Bwrdd Iechyd wrthi’n cynllunio ar gyfer symud y gwasanaeth yn ôl i Ysbyty Athrofaol Cymru (YAC).
- Mae’r gwasanaeth wedi bod yn rhedeg rhestrau llawdriniaeth ychwanegol ar y penwythnos er mwyn creu capasiti ychwanegol, felly gallai hyn olygu y cewch eich gwahodd i’ch apwyntiad ar y penwythnos. Darllenwch eich llythyr apwyntiad yn ofalus cyn mynychu.
Diweddarwyd ddiwethaf 20.07.22