Statws Cyfredol y Gwasanaeth:
- Mae’r holl wasanaethau yn rhedeg ar hyn o bryd ac nid oes unrhyw wasanaethau wedi’u hatal.
- Mae pob claf newydd yn cael ei weld wyneb yn wyneb.
- Gwelir cleifion ag apwyntiadau dilynol naill ai wyneb yn wyneb neu’n rhithwir yn dibynnu ar angen clinigol.
Newidiadau allweddol i wasanaethau mewn ymateb i COVID-19:
- Mae llawdriniaeth gardiothorasig wedi'i hadleoli i Ysbyty Athrofaol Llandochau (YALl) felly bydd eich llawdriniaeth yn cael ei chynnal yno. Mae’r Bwrdd Iechyd wrthi’n cynllunio ar gyfer symud y gwasanaeth yn ôl i Ysbyty Athrofaol Cymru (YAC).
Diweddarwyd ddiwethaf 20.07.22