Neidio i'r prif gynnwy

Adran Swyddogaeth yr Ysgyfaint ac Apnoea Cwsg

 

 

Rydym yn darparu Profion Anadlol ar gyfer holl boblogaeth oedolion Caerdydd a’r Fro.

Rydym yn cynnal amrywiaeth o brofion gweithrediad yr ysgyfaint, profion anadlol arbenigol a diagnosteg apnoea cwsg a therapi a gyfeirir gan feddygon ymgynghorol o fewn gofal eilaidd.

Yn ogystal â hyn mae gennym hefyd Wasanaeth Sbirometreg Cymunedol a atgyfeiriwyd gan feddygon teulu o ardaloedd Caerdydd a’r Fro.

Rydym yn cynnwys tîm o Wyddonwyr Clinigol, Ffisiolegwyr Anadlol, Gwyddonwyr Clinigol dan Hyfforddiant, Ffisiolegwyr Anadlol Cynorthwyol a staff Clerigol sy'n arbenigo mewn Anadlu a Chwsg.

Mae ein Gwyddonwyr Clinigol a'n Ffisiolegwyr Anadlol wedi'u cofrestru gyda'r RCCP (Cyngor Cofrestru Ffisiolegwyr Clinigol) neu'r HCPC (Cyngor Gweithwyr Proffesiynol Iechyd a Gofal).

Lleoliad a Chysylltiadau

Adran Swyddogaeth yr Ysgyfaint
Prif Gleifion Allanol
Ysbyty Athrofaol Llandochau
Caerdydd
CF64 2XX

Apwyntiadau ac Ymholiadau
029 2182 5421

Llinell Gymorth Apnoea Cwsg
029 2182 5806
sleephelp.cav@wales.nhs.uk

Oriau Agor

Llun - Iau
AM - 08:00 - 12:30
PM - 13:15 - 18:00

Gwener
AM - 08:00 - 12:30
PM - 13:15 - 17:45

Dilynwch ni