Neidio i'r prif gynnwy

Cynlluniwyd yr ymgyrch Atal Strôc yng Nghaerdydd a'r Fro i'ch helpu i gael y driniaeth fwyaf priodol os cawsoch ddiagnosis o ffibriliad atrïaidd, ac i ddarparu gwybodaeth i gefnogi eich dewis o wrthgeulydd mewn trafodaeth gyda'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Mae haematolegydd ymgynghorol, meddyg strôc ymgynghorol a fferyllydd gwrthgeulo arbenigol yn gweithio'n agos gyda'ch Meddygfa Teulu i sicrhau bod pob claf â ffibriliad atrïaidd yn cael ei drin yn y modd mwyaf priodol ar gyfer ei risg o strôc.

Gallwch droi at wefan Sefydliad Prydeinig y Galon i weld llawer o wybodaeth i gleifion am ffibriliad atrïaidd, neu gallwch wylio eu fideos o hanesion cleifion isod. 

 

Meddyginiaeth

Y mathau o feddyginiaeth y gallai eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol lleol eu trafod gyda chi yw:

  1. Warfarin
  2. Gwrthgeulydd geneuol newydd (NOAC)
  3. Xarelto
  4. Eliquis
  5. Pradaxa

I gael gwybod rhagor, trowch at y Gymdeithas Ffibriliad Atrïaidd.