Cynlluniwyd yr ymgyrch Atal Strôc yng Nghaerdydd a'r Fro i'ch helpu i gael y driniaeth fwyaf priodol os cawsoch ddiagnosis o ffibriliad atrïaidd, ac i ddarparu gwybodaeth i gefnogi eich dewis o wrthgeulydd mewn trafodaeth gyda'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.
Mae haematolegydd ymgynghorol, meddyg strôc ymgynghorol a fferyllydd gwrthgeulo arbenigol yn gweithio'n agos gyda'ch Meddygfa Teulu i sicrhau bod pob claf â ffibriliad atrïaidd yn cael ei drin yn y modd mwyaf priodol ar gyfer ei risg o strôc.
Gallwch droi at wefan Sefydliad Prydeinig y Galon i weld llawer o wybodaeth i gleifion am ffibriliad atrïaidd, neu gallwch wylio eu fideos o hanesion cleifion isod.
Y mathau o feddyginiaeth y gallai eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol lleol eu trafod gyda chi yw:
I gael gwybod rhagor, trowch at y Gymdeithas Ffibriliad Atrïaidd.