Gan amlaf, dylai pediatregydd cyffredinol sy'n dilyn canllawiau NICE ddelio â phlant â haint y llwybr wrinol sydd wedi'u hatgyfeirio o ofal sylfaenol.
Os oes ar bediatregydd cyffredinol angen cyngor ar ymdrin â phlentyn â haint y llwybr wrinol, dylai gysylltu yn y lle cyntaf â'r meddyg SPIN lleol. Bydd hyn yn arwain at un o bedwar canlyniad:
- Bydd y meddyg SPIN yn gallu delio â'r broblem
- Bydd y meddyg SPIN yn ymgynghori ag arenegwr pediatrig neu wrolegydd yng Nghaerdydd neu yn Lerpwl (ar gyfer gogledd Cymru)
- Bydd y meddyg SPIN yn trefnu gweld y plentyn yn ei glinig ar y cyd
- Bydd y meddyg SPIN yn trefnu atgyfeirio'r claf ar frys i Gaerdydd neu i Lerpwl (ar gyfer gogledd Cymru)
Arwyddion ar gyfer atgyfeirio i / trafodaethau ag arenegwr pediatrig
- Creithiau dwyochrol yr arennau
- Nam ar yr arennau
- Pyeloneffritis mynych
- Plentyn dros 2 oed sy'n gwlychu'i hun yn gyson
Arwyddion ar gyfer atgyfeirio i / trafodaethau ag wrolegydd pediatrig
- Heintiau mynych y llwybr wrinol gydag adlif fesico-wreterig yn bresennol
- Rhwystr posibl yn y llwybr wrinol