Dyma'r prif arwyddion ar gyfer dialysis:
- Gorlwyth hylif
- Hypercalemia
- Asidosis
Y cyngor yw trafod achosion y gall fod angen dialysis arnynt gydag arenegwr pediatrig yn fuan.
Mae sawl peth yn gallu achosi anaf acíwt i'r arennau (AKI) a gall ei ddifrifoldeb amrywio. Er y gellir ymdrin ag achosion llai difrifol yn yr ysbyty lleol, dylai achosion mwy difrifol sydd, efallai, angen dialysis, gael eu hatgyfeirio i'r ganolfan arenneg bediatrig briodol. Cyfeiriwch at y canllaw y mae eich prif ganolfan arenneg bediatrig yn ei gymeradwyo. Bydd gan fwyafrif y plant ag anaf acíwt i'r arennau elfen gynarennol ac mae adferiad hylifau yn sydyn yn bwysig, ac ar yr un pryd osgoi gorlwytho hylifau os bydd oligwria yn parhau.