Mae'n adnodd hanfodol i helpu'r cleifion hynny sy'n dibynnu ar y gwasanaeth ac ni ddylai gael ei ddefnyddio gan bobl heb angen meddygol.
Sylwch, nid yw'r angen am driniaeth yn golygu angen am gludiant yn awtomatig. Mae'n rhaid i bob claf fynd trwy broses gymhwystra i sicrhau bod eich anghenion yn briodol i'r gwasanaeth.
I gleifion nad ydynt yn gymwys, mae Tîm Cludiant Amgen sy'n gallu trafod opsiynau cludiant yn eich ardal.
Mae hyd at 100,000 o siwrneiau Cludo Cleifion Di-frys bob blwyddyn lle nad yw'r claf yn teithio neu nid oedd y claf yn y pwynt casglu pan gyrhaeddodd ein criwiau.
Mae canslo cludiant, os nad oes arnoch ei angen mwyach, yn bwysig iawn, ac mae'n caniatáu i'r Gwasanaeth Cludiant Cleifion Di-frys gynnig y lle i glaf arall.
Os ydych chi'n gymwys ac yn archebu cludiant, ond bydd angen i chi ganslo, ffoniwch y rhif isod neu ewch i wefan y gwasanaeth.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambulance.wales.nhs.uk neu ffoniwch 0300 123 2303
Cliciwch ar y ddelwedd isod i lawrlwytho Taflen ein Gwasanaeth Cludiant Cleifion Di-frys